Adfer ar ôl twyll

Beth i’w wneud os ydych chi wedi dioddef twyll

Os ydych chi neu eich busnes wedi dioddef gweithgarwch twyllodrus, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mewn blwyddyn yn unig, roedd 1 o bob 16 oedolyn yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef twyll.*

Mae hynny’n bron i dair miliwn ohonom ni.

*Ffynhonnell: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024

Mae’n hawdd teimlo’n anobeithiol wrth glywed ei fod wedi digwydd i chi, oherwydd mae’n gallu arwain at oblygiadau ariannol, ymarferol ac emosiynol. Gall y profiad effeithio ar ymdeimlad o ymddiriedaeth, diogelwch a hyder rhywun. Ond mae modd lleihau’r straen os ydych chi’n gwybod sut mae dechrau gwella pethau.

Cymorth ar ôl twyll

Dysgwch sut mae cael gafael ar gymorth ymarferol ac emosiynol ar ôl dioddef twyll.

Adfer colledion

Dilynwch y camau hyn os ydych chi wedi colli arian neu wybodaeth bersonol, neu wedi cael eich hacio.

Byddwch yn wyliadwrus o dwyll pellach

Am beth dylech gadw llygad yn ystod y misoedd ar ôl dioddef twyll.