Dydy sgamwyr ddim yn gwahaniaethu. Fe wnân nhw dargedu unrhyw un.
Does neb yn ddiogel rhag twyll. Mae’r troseddwyr sydd wrth ei wraidd yn targedu pobl ar-lein ac yn eu cartref, gan ddylanwadu’n emosiynol ar ddioddefwyr yn aml cyn dwyn arian neu ddata personol.
Ond fe allwn ni wneud rhywbeth. Drwy fod yn wyliadwrus a chofio stopio, meddwl a gwirio bob tro y bydd rhywun yn gofyn i ni am rywbeth, fe allwn helpu i ddiogelu ein hunain a’n gilydd rhag twyll.
Dyblwch eich amddiffynfeydd
Gosodwch brawf Dilysu 2 Gam ar eich cyfrifon pwysig heddiw.

Ydych chi mewn perygl?
Beth yw’r perygl y cewch chi eich twyllo? Dysgwch pam mae modd i unrhyw un ddioddef twyllo a’r camau dylai pawb eu cymryd i ddiogelu eu hunain.

Sut mae adnabod twyll
Dysgwch sut mae adnabod y tactegau a’r technegau mae twyllwyr yn eu defnyddio’n aml er mwyn helpu i leihau’r perygl o fod yn ddioddefwr.

Diogelu eich hun rhag twyll
Dysgwch beth gallwch ei wneud heddiw i helpu i’ch diogelu chi, eich anwyliaid a’ch busnes rhag twyll.

Adfer ar ôl twyll
Dysgwch sut mae cael gafael ar gyngor a chymorth ymarferol, a pha gamau gallwch eu cymryd, os ydych chi wedi colli arian neu ddata.

Rhoi gwybod am dwyll
Os ydych chi wedi dioddef twyll, dylech roi gwybod am y peth nawr.

Partneriaid yr ymgyrch
Daw’r Ymgyrch Genedlaethol yn Erbyn Twyll gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â Heddlu Dinas Llundain, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
Action Fraud
Ewch i wefan Action Fraud.

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol
Ewch i wefan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.
