Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â chynnwys a gyhoeddir ar y parth campaign.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar is-barthau service.gov.uk (er enghraifft https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio) neu ar GOV.UK

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ac wedi’i dylunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosib. Dylai’r testun fod yn glir a hawdd i’w ddeall. Dylech fod yn gallu:

  • chwyddo’r testun hyd at 300% yn ddidrafferth
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch ydy’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn hygyrch ac yn cydymffurfio â safon AA Web Content Accessibility Guidelines fersiwn 2.1.

Gwasanaethau GOV.UK

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion am ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i adrodd problemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i’r gwasanaeth.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cofiwch ddweud os oes angen gwybodaeth mewn gwahanol fformat arnoch.

Yn eich neges dylech gynnwys:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich cyfeiriad e-bost ac enw
  • y fformat sydd ei angen arnoch – er enghraifft testun plaen, braille, BSL, print mawr neu CD sain

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ar ‘Request an accessible format’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y sefydliad i adrodd unrhyw broblem neu i ofyn am ddogfen mewn fformat arall.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os gwelwch unrhyw broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen yma, neu os teimlwch nad ydyn ni’n cwrdd â’n gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Os cysylltwch â ni i gwyno ac os nad ydych yn hapus â’n hymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori ar Gydraddoldeb (EASS).

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Cyhoeddus (Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol a Gwefannau) 2018 (‘rheoliadau hygyrchedd’).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn ymrwymedig i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Rhif 2) Cyrff Cyhoeddus (Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol a Gwefannau) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, fersiwn 2.1.

Cynnwys anhygyrch

Nid oes unrhyw rannau sy’n anhygyrch. Fodd bynnag, gallai rhai tudalennau gysylltu i gynnwys trydydd parti fel dogfennau pdf, sydd ddim yn gwbl hygyrch.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Ionawr 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 12 Chwefror 2024.