Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r wefan hon yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref ar y cyd â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan o Swyddfa’r Cabinet.

Y Swyddfa Gartref yw rheolydd data unrhyw wybodaeth bersonol a gyhoeddir ar y wefan hon ac unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu drwy gwcis.

Swyddfa’r Cabinet yw rheolydd data unrhyw wybodaeth bersonol a brosesir fel rhan o ddarparu’r llwyfan sylfaenol, fel cyfeiriadau IP.

Mae rheolydd data’n penderfynu sut a pham y prosesir data personol. Am fwy o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet yn y Gofrestr Gyhoeddus ar Ddiogelu Data.

Pa ddata a gasglwn a pham

Mae’r GDS yn casglu peth data’n awtomatig wrth i chi ymweld â’r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) a manylion am y fersiwn o borwr gwe a ddefnyddiwch. Mae’r GDS yn defnyddio’r wybodaeth yma i roi mynediad i’r wefan i chi, ac i fonitro sut y defnyddir y wefan er mwyn adnabod bygythiadau diogelwch.

Os rhowch eich caniatâd mae’r Swyddfa Gartref yn defnyddio Google Analytics neu Google Analytics 4 i gasglu’r wybodaeth ganlynol am sut y defnyddiwch y wefan:

  • y tudalennau yr edrychwch arnynt ar GOV.UK
  • pa mor hir y treuliwch ar bob tudalen ar GOV.UK
  • sut y cyrhaeddoch y wefan
  • ar beth y cliciwch ar y wefan
  • syniad yn fras o’ch lleoliad yn defnyddio eich cyfeiriad IP dienw.

Ni chasglwn unrhyw wybodaeth bersonol i’ch adnabod yn uniongyrchol drwy Google Analytics neu Google Analytics 4 (er enghraifft eich enw neu gyfeiriad). Ni fydd y Swyddfa Gartref yn eich adnabod drwy wybodaeth ddadansoddi ac ni fydd yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddi â data arall mewn ffordd a allai eich adnabod.

Mae’r Swyddfa Gartref yn defnyddio’r wybodaeth yma i sicrhau bod y wefan yn cwrdd ag anghenion ei defnyddwyr ac i wneud gwelliannau.

Ewch i’r dudalen Cwcis am fwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

Sail gyfreithiol GDS dros brosesu data personol ar gyfer diogelwch gwefannau yw eu budd cyfreithlon mewn sicrhau diogelwch a didwylledd y llwyfan.

Sail gyfreithiol GDS dros brosesu’r holl ddata personol arall yw bod angen gwneud hyn i gyflawni tasg o fudd cyhoeddus neu i wneud ein gwaith fel adran y llywodraeth.

Sail gyfreithiol y Swyddfa Gartref dros gasglu eich gwybodaeth drwy Google Analytics neu Google Analytics 4 yw eich caniatâd.

Beth a wnawn gyda’ch data

Gall y GDS neu’r Swyddfa Gartref rannu data ag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus os oes cyfiawnhad ac angen cyfreithlon i wneud hynny. Gallai data hefyd gael ei rannu â chyflenwyr technoleg fel darparwyr gwe-letya, sy’n gweithredu fel proseswyr data.

Ni fyddwn yn:

  • gwerthu na rhentu eich data i drydydd partïon
  • rhannu eich data â thrydydd partïon i bwrpas marchnata
  • defnyddio’r data dadansoddi i adnabod unigolion, h.y. drwy gysylltu’r data i ddata arall

Byddwn yn rhannu eich data os oes angen i ni wneud hynny’n gyfreithiol – er enghraifft, gorchymyn llys, neu i atal twyll neu drosedd arall.

Pa mor hir y cadwn eich data

Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyn hired ag y bo angen i ni ei gadw am y rhesymau a nodir yn y ddogfen hon neu am gyn hired ag y bo’n gyfreithiol angenrheidiol.

Bydd y GDS yn dileu data log mynediad ar ôl 120 diwrnod.

Bydd y Swyddfa Gartref yn dileu data Google Analytics neu Google Analytics 4 ar ôl 14 mis.

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw’r wefan hon wedi’i dylunio ar gyfer, na wedi’i thargedu at, blant 13 oed neu iau. Nid yw’r GDS na’r Swyddfa Gartref yn fwriadol gasglu na chadw data ar neb o dan 13 oed.

Ble y mae eich data’n cael ei brosesu a’i storio

Mae data’n ymwneud â’r llwyfan sylfaenol yn cael ei brosesu a’i storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Gall data wedi’i gasglu gan Google Analytics neu Google Analytics 4 gael ei drosglwyddo y tu allan i’r EEA i’w brosesu.

Sut y diogelwn eich data a’i gadw’n ddiogel

Rydyn ni’n ymrwymedig i wneud ein gorau glas i gadw eich data’n ddiogel. Mae gennym ni systemau a phrosesau i atal pobl rhag gweld neu ddatgelu eich data’n ddiawdurdod – er enghraifft, yn defnyddio gwahanol lefelau o amgryptio.

Gwnawn yn siŵr hefyd fod unrhyw drydydd partïon y deliwn â nhw’n cadw pob data personol a brosesir ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn:

  • am wybodaeth am sut y prosesir eich data personol
  • am gopi o’r data personol hwnnw
  • i ni gywiro’n syth unrhyw beth sy’n anghywir yn eich data personol

Gallwch hefyd:

  • codi gwrthwynebiad am sut y prosesir eich data personol
  • gofyn am ddileu eich data personol os nad oes cyfiawnhad dros ei gadw mwyach
  • gofyn i ni gyfyngu ar ba ddata personol sy’n cael ei brosesu mewn rhai amgylchiadau

Os ydych am ofyn unrhyw un o’r pethau hyn, cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk.

I gysylltu â ni neu i wneud cwyn

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am unrhyw beth yn y polisi preifatrwydd hwn neu os credwch fod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu gam-drin, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data (DPO) yn:

Office of the DPO, Peel Building, 2 Marsham Street, London SW1P 4DF

E-bost: dpo@homeoffice.gov.uk

Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.

Y Comisiynydd Gwybodaeth
casework@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Llun to Gwener, 9am to 4:30pm
Mwy am daliadau ffonio

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Gallai’r hysbysiad hwn gael ei newid o bryd i’w gilydd. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddariad diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data’n syth.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut y prosesir eich data personol, bydd y GDS a’r Swyddfa Gartref yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Diweddariad diwethaf 12 Chwefror 2024