Mewn twyll detio neu dwyll rhamant, mae’r troseddwyr yn trin pobl yn ddeheuig nes eu cael nhw i anfon arian atyn nhw. Fe wnân nhw ymdrechion mawr i ennill eich ymddiriedaeth, weithiau dros fisoedd neu flynyddoedd, a’ch argyhoeddi eich bod chi mewn perthynas go iawn.
Beth i chwilio amdano
Ni waeth pa mor hir y gallech fod wedi bod yn siarad â rhywun, os nad ydych chi wedi cwrdd â nhw’n bersonol mae’n bwysig bod yn wyliadwrus:
- os cewch chi’ch annog i gadw pethau oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau
- os bydd rhywun yn gofyn llawer o gwestiynau amdanoch chi ond heb ddatgelu llawer amdanyn nhw eu hunain
- os cewch chi’ch gosod mewn sefyllfa lle mae’r amser yn brin i anfon arian neu rannu gwybodaeth
Sut i amddiffyn eich hun
- Byddwch yn ofalus o ran yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu ar lwyfannau yn y cyfryngau cymdeithasol: gall twyllwyr wneud ymchwil cyn cysylltu â chi i wneud eu hunain yn hawdd mynd atyn nhw.
- Ymchwiliwch i’r unigolyn rydych chi’n siarad â nhw achos mae’n bosibl na fydd lluniau proffil yn ddilys. Uwchlwythwch lun o’r person rydych chi’n siarad â nhw gan ddefnyddio offeryn chwilio delweddau i weld a oes modd dod o hyd i’w lluniau proffil nhw mewn mannau eraill ar-lein.
- Ystyriwch aros ar y wefan neu’r ap detio nes eich bod yn hyderus mai’r person go iawn sydd yno.
- Peidiwch byth ag anfon arian gan gynnwys talebau, cryptoarian neu arian ar gyfer buddsoddiadau at rywun nad ydych chi wedi cwrdd â nhw’n bersonol.
Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, STOPIWCH!
- torrwch y cyswllt – peidiwch â gwneud unrhyw daliadau na rhannu mwy o wybodaeth bersonol
- siaradwch â ffrindiau a theulu: weithiau gall ail farn helpu os ydych chi’n ansicr ynglŷn â sefyllfa
Riportio twyll
Os ydych chi wedi dioddef twyll, darganfyddwch sut i riportio’r peth.