Mae troseddwyr yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau a thactegau i ddwyn eich arian neu i gael gwybodaeth bersonol i’w defnyddio rywbryd eto mewn ymgais i dwyllo. Maen nhw’n gweithredu ar wefannau ac apiau, drwy’r post, e-bost, negeseuon testun, galwadau ffôn neu wyneb yn wyneb, gan gynnwys ar eich stepen drws.
Yn yr adran hon byddwn yn esbonio rhai o’r camau gallwch chi eu cymryd i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Diogelu eich hun rhag twyll ar-lein
Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrineiriau, eich dyfeisiau a’ch data mor ddiogel â phosib.
Diogelu rhag twyll gartref
Gwnewch hi’n anoddach i dwyllwyr eich targedu ar eich stepen drws, drwy’r post neu ar y ffôn.
Diogelu rhag twyll mewn mannau cyhoeddus
Cadwch eich cyfrineiriau, eich PINs a’ch cardiau banc yn ddiogel pan fyddwch chi allan o’r tŷ.
Diogelu eraill rhag twyll
Dysgwch sut gallwch chi helpu i ddiogelu teulu a ffrindiau a allai fod mewn perygl o dwyll.
Fyddech chi wir yn gwybod sut i osgoi twyll?
Cymerwch ein cwis byr i gael gweld a fyddech chi’n gallu lleihau’ch risg pe bai twyllwr yn cysylltu â chi.

A oes risg i chi?
Twyll yw bron i 41% o droseddau. Mewn blwyddyn yn unig, cafodd 1 o bob 16 oedolyn yng Nghymru a Lloegr eu twyllo.*
Bron i 3 miliwn ohonom ni.
Cafodd 1 o bob 5 o fusnesau hefyd eu twyllo dros gyfnod o 3 blynedd.^
Felly mae twyll yn rhemp a gall ddigwydd i unrhyw un.
*Ffynhonnell: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024
^Ffynhonnell: Arolwg Troseddau Economaidd 2020
Meddwl eich bod yn rhydd rhag twyll?
Gall twyllwyr ddefnyddio dulliau soffistigedig iawn i’n taro os na fyddwn ni ar ein gwyliadwriaeth a gall datblygiadau mewn technoleg olygu bod twyll yn anos i’w adnabod. Does neb yn rhydd rhag twyll. Gallwn fod yn fwy effro i’r peryglon a gallwn i gyd wneud mwy i ddiogelu ein hunain.
Pam fod mwy o risg i chi nag y tybiwch
Mae’r byd wedi newid. Sy’n golygu bod y ffordd y mae twyllwyr yn gweithio wedi newid, a bydd yn parhau i esblygu. Dysgwch fwy am pam fod hyn yn ein gwneud yn fwy agored i dwyll.
4 ffordd o atal twyllwr
Beth yw’r risg bod twyll yn digwydd i chi? Atebwch 4 gwestiwn sydyn i weld sut y gallwch wneud eich hun yn darged anoddach.