A oes risg i chi?

Twyll yw bron i 40% o droseddau. Mewn blwyddyn yn unig, cafodd 1 o bob 17 oedolyn yng Nghymru a Lloegr eu twyllo.*

Bron i 3 miliwn ohonom ni.

Cafodd 1 o bob 5 o fusnesau hefyd eu twyllo dros gyfnod o 3 blynedd.^

Felly mae twyll yn rhemp a gall ddigwydd i unrhyw un.

*Ffynhonnell: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr am y flwyddyn yn gorffen Medi 2023
^Ffynhonnell: Arolwg Troseddau Economaidd 2020

Meddwl eich bod yn rhydd rhag twyll?

Gall twyllwyr ddefnyddio dulliau soffistigedig iawn i’n taro os na fyddwn ar ein gwyliadwriaeth. Does neb yn rhydd rhag twyll. Gallwn fod yn fwy effro i’r peryglon a gallwn i gyd wneud mwy i ddiogelu ein hunain.

Pam fod mwy o risg i chi nag y tybiwch

Mae’r byd wedi newid. Sy’n golygu bod y ffordd y mae twyllwyr yn gweithio wedi newid, a bydd yn parhau i esblygu. Dysgwch fwy am pam fod hyn yn ein gwneud yn fwy agored i dwyll.

4 ffordd o atal twyllwr

Beth yw’r risg bod twyll yn digwydd i chi? Atebwch 4 gwestiwn sydyn i weld sut y gallwch wneud eich hun yn darged anoddach.