Twyll mewn byd sy’n newid
Mae’r byd wedi newid. Sy’n golygu bod y ffordd y mae twyllwyr yn gweithio wedi newid a bydd yn parhau i esblygu. Dysgwch fwy pam fod hynny’n eich gwneud yn fwy agored i dwyll – a beth allwch ei wneud i leihau eich risg.
1. Mae’r we’n rhoi mwy o gyfle nag erioed o’r blaen i dwyllwyr
Mae ein bywydau’n fwy a mwy ar-lein felly mae gan dwyllwyr fwy o gyfleoedd nag erioed i dargedu pobl wrth siopa, bancio, chwarae gemau fideo, dêtio, rhwydweithio a mwy. Ar yr un pryd mae natur ddienw’r we yn ei gwneud yn haws i dwyllwyr guddio pwy ydyn nhw a beth yw eu gwir fwriadau.
Eisiau lleihau eich risg? Dysgwch sut i ddiogelu eich hun yn erbyn twyll ar-lein.
2. Mae twyll yn anoddach i’w adnabod nag erioed
Mae datblygiadau technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) yn golygu bod twyllwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig am ddynwared cwmnïau, pobl neu frandiau go iawn. Y dyddiau hyn gall e-bost, hysbyseb neu wefan ffug edrych yn rhai credadwy – gall fod yn amhosib dweud y gwahaniaeth rhyngddynt – felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r perygl ac adnabod yr arwyddion.
Eisiau lleihau eich risg? Dilynwch ein canllawiau ar sut i adnabod twyll.
3. Mae’r we’n dangos mwy amdanom nag erioed o’r blaen
Mae bron i bopeth a wnawn ar-lein yn gadael ‘ôl-troed digidol’ sy’n cael ei ddefnyddio gan droseddwyr i wneud eu sgamiau’n fwy credadwy. Po fwyaf y gall twyllwyr ei ddarganfod am ein ffordd o fyw, perthnasoedd a diddordebau, y mwyaf tebygol ydyn nhw o dargedu ein emosiynau neu ennill ein hymddiriedaeth.
Eisiau lleihau eich risg? Dysgwch sut i adnabod y tactegau a ddefnyddir gan dwyllwyr.