P’un ai eich bod wedi gweld rhywbeth amheus neu wedi dioddef twyll, dylech roi gwybod am y peth bob amser. Bydd darparu manylion am y mater yn helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r troseddwyr, ac fe allai helpu i atal yr un peth rhag digwydd i bobl eraill.
Ar y dudalen hon:
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Sut mae rhoi gwybod am dwyll
Rhowch wybod i Action Fraud
Action Fraud yw’r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Os ydych chi wedi cael eich sgamio, eich twyllo neu wedi dioddef seiberdroseddu, rhowch wybod i Action Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Rhagor o wybodaeth am beth fydd angen i chi ei adrodd a beth sy’n digwydd ar ôl i chi adrodd.
Rhowch wybod i Heddlu’r Alban
Yn yr Alban, dylid rhoi gwybod i Heddlu’r Alban am bob achos o dwyll ac unrhyw droseddau ariannol eraill drwy ffonio 101.
Rhowch wybod i’ch banc
Os ydych chi wedi colli arian neu’n meddwl bod gan dwyllwr fynediad at eich cyfrif banc, rhowch wybod i’ch banc neu eich darparwr gwasanaeth talu cyn gynted â phosib er mwyn iddynt allu diogelu eich cyfrif a’ch helpu i gael eich arian yn ôl.
Dylech bob amser gysylltu â nhw’n uniongyrchol gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu rif ffôn rydych chi’n ei adnabod fel y rhai ar eu gwefan neu ar gefn eich cerdyn, neu ffoniwch 159.
Rhowch wybod i sefydliadau perthnasol eraill
Dylech hefyd gysylltu ag unrhyw sefydliad perthnasol arall i roi gwybod beth sydd wedi digwydd a gofyn am ymchwiliad i’r mater, er enghraifft:
• sefydliad yr oedd ei enw wedi cael ei ddefnyddio’n ffug yn y twyll (fel darparwr ynni neu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau)
• y llwyfan lle digwyddodd y twyll (fel Facebook neu Google)
Sut mae rhoi gwybod am weithgarwch amheus:
e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn, hysbysebion neu wefannau
Os ydych chi wedi gweld hysbyseb amheus ar gyfryngau cymdeithasol neu wefan, neu wedi cael neu weld e-bost, galwad ffôn neu neges amheus, ond nad ydych chi wedi colli arian neu ymateb, dyma sut mae rhoi gwybod am y peth.
Drwy roi gwybod am weithgarwch amheus, fe allech chi helpu’r awdurdodau i’w dynnu ac i atal eraill rhag dioddef twyll.
Wedi cael e-bost amheus?
Beth ddylech chi ei wneud
Cyn dileu’r e-bost, anfonwch y neges ymlaen i report@phishing.gov.uk
Pam rhoi gwybod?
Fe allech chi helpu i atal gweithgarwch troseddol ac atal eraill rhag dioddef twyll.
Wedi cael galwad ffôn neu neges destun amheus?
Beth ddylech chi ei wneud
Rhowch wybod am alwadau ffôn a negeseuon testun amheus yn rhad ac am ddim i 7726.
I roi gwybod am alwad ffôn, anfonwch neges destun i 7726 gyda’r gair ‘Call’ wedi’i ddilyn gan rif y galwr sgam.
I roi gwybod am neges destun:
- pwyswch a dal y neges nes bod yr opsiwn ‘Forward’ yn ymddangos
- pan fydd y maes ‘To’ yn ymddangos, teipiwch 7726
- pwyswch anfon
- ar ôl ei anfon, byddwch yn cael neges yn gofyn i chi ateb gyda rhif y tecstiwr sbam – mae’n ddiogel gwneud hynny
I roi gwybod am neges rydych chi wedi’i chael ar ap negeseua:
- blociwch y rhif
- defnyddiwch nodwedd rhoi gwybod yr ap i roi gwybod i’r llwyfan am y neges amheus
Pam rhoi gwybod?
Fe all eich gwasanaeth ffôn neu negeseua ddod o hyd i darddiad y neges neu’r alwad, a blocio neu wahardd yr anfonwr os yw’n credu ei bod yn faleisus.
Wedi gweld hysbyseb ffug ar-lein?
Beth ddylech chi ei wneud
Rhoi gwybod am yr hysbyseb ffug i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybod ar y llwyfan lle gwelsoch chi’r hysbyseb hefyd.
Pam rhoi gwybod?
Mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu’n rhannu unrhyw wybodaeth mae’n ei chasglu â phartneriaid allweddol, gan gynnwys pob rhwydwaith hysbysebion a llwyfan cyfryngau cymdeithasol mawr yn y DU, er mwyn sicrhau bod hysbysebion ffug yn cael eu tynnu a bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio i atal hysbysebion tebyg rhag ymddangos.
Wedi gweld gwefan ffug?
Beth ddylech chi ei wneud
Rhoi gwybod i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol am wefannau amheus. Does dim tâl a dim ond munud mae’n ei gymryd.
Pam rhoi gwybod?
Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y pŵer i ymchwilio i wefannau twyllodrus a’u tynnu. Drwy roi gwybod am wefannau amheus, fe allwch chi helpu’r Ganolfan i atal seiberdroseddwyr ac i ddiogelu eraill ar-lein.
Wedi cael rhywbeth amheus drwy’r post?
Beth ddylech chi ei wneud
Cysylltu â’r Post Brenhinol, sy’n delio â thwyll drwy’r post. Fe allwch chi wneud y canlynol:
- llenwi ffurflen adroddiad ar wefan y Post Brenhinol
- ffonio’r Post Brenhinol am ddim ar 0800 011 3466 (gwasanaeth negeseuon yn unig)
Pam rhoi gwybod?
Fe all y Post Brenhinol weithio gyda’r awdurdodau perthnasol i ymchwilio a chymryd camau gweithredu.
Pam rhoi gwybod am dwyll?
Dysgwch sut gall rhoi gwybod am dwyll ein helpu ni i frwydro’n ôl a diogelu eraill rhagddo.
Beth sy’n digwydd nesaf
Dysgwch beth sy’n digwydd nesaf y tu ôl i’r llenni pan fyddwch yn rhoi gwybod am dwyll.
Os ydych chi wedi gweld rhywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn, STOPIWCH!
- peidiwch â chlicio unrhyw ddolenni
- peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol na’ch manylion banc
- torrwch y cysylltiad os oes angen
- rhowch wybod i’ch teulu a’ch ffrindiau er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol
- os ydych chi wedi colli arian, rhowch wybod i Action Fraud neu ffoniwch Heddlu’r Alban ar 101