4 ffordd o atal twyllwr

Beth yw’r risg bod twyll yn digwydd i chi? Gofynnwch y 4 cwestiwn yma i chi eich hun i weld a allwch wneud mwy i ddiogelu eich hun.

Cwestiwn 1. Ydych chi’n aros i feddwl pwy sy’n cysylltu â chi go iawn?

Yn aml iawn mae twyllwyr yn ffonio neu’n anfon neges gan honni bod yn rhywun o’ch banc, cwmnïau adnabyddus eraill neu hyd yn oed yn rhywun yr ydych yn ei adnabod. Maen nhw’n gallu bod yn gredadwy iawn, yn enwedig os ydyn nhw wedi llwyddo i gael gafael ar wybodaeth bersonol, er enghraifft drwy edrych ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl ennill eich ymddiriedaeth, maen nhw’n aml yn gofyn am wybodaeth gyfrinachol, am arian neu am gael mynediad at eich ffôn neu gyfrifiadur.

Sut i leihau eich risg

Peidiwch byth â derbyn galwad neu neges fel hyn ar yr olwg gyntaf – cofiwch bob amser gymryd amser i aros, meddwl a chadarnhau pwy ydy’r galwr neu anfonwr y neges.

Os cawsoch alwad ffôn neu neges amheus:

  • peidiwch â chael eich rhuthro i wneud penderfyniad sydyn – meddyliwch yn ofalus cyn rhoi arian, manylion personol neu fynediad at eich dyfais
  • os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch y rhif
  • cofiwch y gall twyllwyr ddynwared rhifau ffôn felly efallai na fydd y rhif ffôn sy’n ymddangos ar eich ‘Caller ID’ yn brawf o bwy ydyn nhw
  • yn hytrach, gwiriwch gyda’r cwmni eich hun drwy ddefnyddio manylion cyswllt y gwyddoch sy’n gywir, fel y rhai ar fil, gwefan swyddogol, ar gefn eich cerdyn neu drwy ffonio 159 ar gyfer banciau
  • os cewch neges gan aelod o’r teulu’n gofyn i chi anfon arian, defnyddiwch fanylion cyswllt y gwyddoch i fod yn gywir i gadarnhau

Dysgwch fwy am sut i adnabod twyll ffôn, e-byst gwe-rwydo a negeseuon testun ffug.

Cwestiwn 2. Ydych chi’n coelio cynigion a chlicio ar ddolenni’n awtomatig?

“Tocynnau hanner pris i gig sydd wedi gwerthu allan!” “Arbedion anhygoel ar wyliau munud olaf – brysiwch!” Mae twyllwyr yn gwybod bod y rhan fwyaf ohonom yn hoffi bargen, ac felly’n defnyddio disgowntiau, pwysau amser ac FOMO (ofn colli allan) i roi pwysau ar bobl i dalu am fargeinion sydd ddim yn bodoli. Neu drwy bwyso ar bobl i glicio ar ddolenni mewn negeseuon gwe-rwydo sy’n gallu mynd â nhw i wefan ffug lle y gall twyllwyr ddwyn arian a manylion personol, neu ‘heintio’ eich dyfais.

Sut i leihau eich risg

Os gwelwch gynnig sy’n temtio:

  • peidiwch â chael eich rhuthro i wneud penderfyniad sydyn – cymerwch amser i aros, meddwl a chadarnhau bod y neges, cynnig neu’r hysbysiad yn un go iawn
  • peidiwch â chlicio’n awtomatig ar ddolen, yn enwedig mewn negeseuon annisgwyl
  • os nad ydych yn 100% sicr, peidiwch â chlicio ar y ddolen – ewch yn syth i wefan y cwmni dan sylw
  • cofiwch aros ar wefannau dibynadwy a defnyddio dulliau talu cymeradwy’r wefan
  • dylech osgoi talu drwy drosglwyddiad banc neu arian rhithiol
  • meddyliwch yn ofalus cyn trosglwyddo unrhyw arian neu fanylion personol

Dysgwch sut i adnabod y tactegau seicolegol y mae twyllwyr yn eu defnyddio’n aml.

Dysgwch fwy am sut i adnabod e-byst gwe-rwydo, hysbysebion ffug a gwefannau ffug.

Cwestiwn 3. Ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer gwahanol gyfrifon?

Mae llawer o bobl yn defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer nifer o gyfrifon fel e-bost, cyfrif banc a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Llai i’w gofio yn does? Ond dychmygwch pe bai twyllwr yn cael gafael ar y cyfrinair. Byddent yn gallu cael gafael ar eich holl gyfrifon ar-lein.

Sut i leihau eich risg

Dewiswch gyfrinair gwahanol i bob cyfrif. Rhy anodd eu cofio i gyd? Gallwch gadw trefn ar eich cyfrineiriau drwy ddefnyddio rheolwr cyfrineiriau neu dri gair “hap” i’w gwneud yn haws i’w cofio.

Dylech:

  • byth ddewis cyfrinair gydag enwau, llefydd a rhifau sy’n bersonol i chi
  • dewis gwahanol gyfrinair ar gyfer pob cyfrif – un cryf sy’n anodd ei ddyfalu – ond os na allwch eu newid i gyd ar unwaith, rhowch flaenoriaeth i’ch cyfrif e-bost

Dysgwch fwy am ddiogelu cyfrineiriau.

Cwestiwn 4. Ydych chi’n defnyddio dilysu 2-gam?

Hyd yn oed os yw rhywun wedi dewis cyfrineiriau cryf ac unigryw ar gyfer eu cyfrifon e-bost a banc, mae risg o hyd – er yn fach – y gallai twyllwr gael gafael arnyn nhw. Os ydyn nhw, does dim byd i’w hatal rhag cael gafael ar y cyfrifon hynny i ddwyn arian a manylion personol eraill.

Sut i leihau eich risg

Cofrestrwch ar gyfer dilysu 2-gam (2SV) ar eich cyfrifon pwysicaf fel e-bost a bancio. Mae 2SV yn gweithio drwy ofyn am fwy o wybodaeth i brofi pwy ydych wrth i chi fewngofnodi i gyfrif ar-lein. Mae’n un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o warchod eich cyfrifon ar-lein rhag troseddwyr.