Sut i adnabod twyll ffôn

Twyll ffôn yw pan fydd twyllwr yn eich ffonio neu’n anfon neges atoch yn honni bod yn rhywun yr ydych yn eu hadnabod o sefydliad cyfarwydd fel eich banc neu’r heddlu. Maen nhw yna’n eich darbwyllo i roi manylion personol, i dalu arian, rhoi mynediad i’ch cyfrifiadur neu ddilyn dolen i wefan amheus.

Enghreifftiau o dwyll ffôn i fod yn wyliadwrus ohonynt

Cwmni ffôn neu gyfrifiadur

Pwy sy’n galw?

Rhywun yn honni bod o’ch cwmni rhyngrwyd, cyfrifiadur neu ffôn.

Beth yw’r stori?

Mae problem gyda’ch dyfais, gwasanaeth rhyngrwyd neu gyfrif ond maen nhw wedi’i ddarganfod ac yn gallu helpu.

Sut y maen nhw’n eich twyllo?

Maen nhw’n dweud wrthych am lawrlwytho rhaglen i ddatrys y broblem ond mewn gwirionedd mae’n rhoi mynediad i’ch cyfrifiadur. Mae ganddyn nhw wedyn fynediad at bopeth arno, o luniau a ffeiliau i gyfrineiriau a manylion banc.

Banc neu swyddfa dreth

Pwy sy’n galw?

Rhywun yn honni bod o’ch banc neu’r swyddfa dreth (Cyllid a Thollau EF neu HMRC).

Beth yw’r stori?

Mae problem gyda’ch cyfrif banc neu rydych yn euog o drosedd treth a gallech gael eich arestio.

Sut y maen nhw’n eich twyllo?

Maen nhw’n dweud y gall y broblem gael ei datrys os trosglwyddwch arian i ‘gyfrif diogel’ wedi’i agor yn eich enw, neu os talwch ddirwy i osgoi cael eich arestio. Mewn gwirionedd, mae’r arian yn mynd i gyfrif banc y troseddwr.

Yr heddlu

Pwy sy’n galw?

Rhywun yn honni bod o’r heddlu.

Beth yw’r stori?

Mae troseddwyr wedi clonio eich cardiau banc ac angen eich help i ymchwilio i’r mater.

Sut y maen nhw’n eich twyllo?

Gofynnir ichi drosglwyddo eich cardiau banc, PIN neu arian i ‘blismon cudd’ neu courier fel tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Un amrywiad ar hyn fyddai gofyn i chi brynu rhywbeth drud a rhoi’r eitem honno i courier wedyn. Mewn gwirionedd byddwch wedi rhoi eich data, arian neu eitemau i’r twyllwr.

Sut y mae twyllwyr yn swnio mor gredadwy

‘Sbŵffio rhifau ffôn’

Mae’r twyllwr yn ffonio rhif y tŷ neu rif eich ffôn symudol o rif ffôn sy’n edrych yn ddiffuant. ‘Sbŵffio’ yw hyn. Maen nhw’n newid y rhif y maen nhw’n ffonio ohono i ymddangos ar eich caller ID fel rhif cyfarwydd a dibynadwy.

Maen nhw’n gwybod rhai pethau amdanoch

Gallent wybod rhai o’ch manylion personol felly rydych yn coelio eu bod yn bwy bynnag y maen nhw’n honni bod.

Stori emosiynol

Mae’r stori’n gredadwy o ran pam eu bod yn ffonio, yn aml iawn oherwydd rhyw argyfwng sy’n golygu bod angen trosglwyddo arian, manylion personol neu reolaeth o’ch cyfrifiadur.

Rhestr wirio twyll ffôn: beth i chwilio amdano

Gall fod yn anodd adnabod twyll ffôn – neu ‘we-rwydo llais’ / sgamiau ‘llais-rwydo’. Ond mae rhai arwyddion a ddylai eich gwneud yn amheus. Maen nhw’n cynnwys:

  • y galwr yn gofyn i chi rannu gwybodaeth bersonol neu ariannol
  • y galwr yn gofyn i chi rannu pascôd un-tro neu PIN
  • y galwr yn gofyn i chi roi mynediad o bell at eich cyfrifiadur
  • y galwr yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dalu neu symud arian
  • y galwr yn ceisio eich rhuthro neu gynhyrfu os gofynnwch gwestiynau neu am brawf adnabod

Sut i ddiogelu eich hun rhag twyll ffôn

Cofiwch y bydd darparwyr gwasanaeth, banciau a phlismyn diffuant BYTH yn ffonio’n gofyn i chi drosglwyddo arian, rhannu manylion ariannol personol neu roi rheolaeth o bell o’ch cyfrifiadur.

Os ydych yn amheus o gwbl neu’n teimlo dan unrhyw bwysau, rhowch y ffôn i lawr a gwiriwch ydy’r alwad yn un ddiffuant.

Ffoniwch yn ôl ar rif y gwyddoch sy’n gywir, er enghraifft y rhif ar fil ffôn, rhyngrwyd, trydan neu ar gefn eich cerdyn. Gallwch hefyd ffonio 159 i gysylltu â’ch banc neu 101 i ffonio’r heddlu.

Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!

  • rhowch y ffôn i lawr
  • gwiriwch ydio’n ddiffuant: cysylltwch â’r sefydliad neu gwmni’n uniongyrchol yn defnyddio manylion cyswllt y gwyddoch sy’n gywir, e.e. rhai ar eich bil trydan, ffôn ayyb, chwiliwch ar peiriant chwilio, ar gefn eich cerdyn neu drwy ffonio 159 ar gyfer eich banc
  • peidiwch â thrystio’r caller ID a ddangosir ar eich ffôn – nid yw’n brawf o ID
  • dylech ei ryportio drwy decstio 7726 gyda’r gair ‘Call’ yna rhif y galwr sgam

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r galwr yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi ymateb, clicio ar ddolen, anfon gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo ar y ffôn, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdano.