Byddwch yn wyliadwrus o dwyll pellach

Os ydych chi wedi dioddef twyll, mae’n bosib y cewch eich targedu eto. Mae hyn oherwydd bod twyllwyr yn ychwanegu manylion dioddefwyr at restrau maen nhw wedyn yn eu gwerthu i droseddwyr eraill. Felly, yn ystod y misoedd wedyn, byddwch yn wyliadwrus iawn o unrhyw un sy’n gofyn i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol fel manylion banc, cyfrineiriau, cyfrineiriau untro (OTPs) a PINs.

Dylech fod yn arbennig o amheus o ‘dwyll adfer ar ôl twyll’. Ystyr y math hwn o dwyll yw bod troseddwr yn esgus bod yn rhywun o asiantaeth adfer ar ôl twyll, ac yn cynnig helpu’r dioddefwr i adfer arian mae wedi’i golli. Efallai y bydd yn gwybod llawer o fanylion, gan wneud iddo swnio’n gredadwy, ond bydd yn gofyn am ffi ymlaen llaw. Dyna arwydd ei fod yn achos o dwyll. Nid yw asiantaethau go iawn byth yn gofyn am ffioedd i adfer arian sydd wedi’i golli i dwyllwyr.

Sut mae adnabod twyll

Dysgwch sut mae adnabod tactegau a thechnegau cyffredin twyllwyr er mwyn i chi allu bod yn wyliadwrus o dwyll pellach.

Eich diogelu chi ac eraill rhag twyll

Dysgwch beth arall gallwch ei wneud i helpu i’ch diogelu chi, eich anwyliaid a’ch busnes rhag twyll.