Cymorth ar ôl twyll

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am dwyll, bydd cymorth i’ch helpu i ddelio â’r profiad yn cael ei gynnig i chi. Bydd hyn yn delio â’r camau ymarferol i adfer unrhyw arian neu ddata rydych chi wedi’i golli, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol.

Cymru a Lloegr

Os ydych chi wedi cael eich sgamio, eich twyllo neu wedi profi seiberdroseddu, ac wedi rhoi gwybod am hyn i Action Fraud, efallai y bydd rhywun yn Uned Ofal Genedlaethol Action Fraud i Ddioddefwyr Troseddau Economaidd (AF-NECVCU) yn cysylltu â chi.

Nod yr Uned yw gwneud i ddioddefwyr deimlo’n fwy diogel, eu helpu i adfer ar ôl y drosedd, a’u gwneud yn llai tebygol o ddioddef eto. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dîm o arbenigwyr sy’n teilwra eu cyngor i anghenion dioddefwyr mewn ffordd broffesiynol, sensitif ac empathig.

Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth am ddim trwy elusen genedlaethol o’r enw Cymorth i Ddioddefwyr. Sgroliwch i lawr am fanylion ar sut i gysylltu â nhw.

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Gallwch gael cyngor a chymorth am ddim drwy elusen genedlaethol o’r enw Cymorth i Ddioddefwyr. Gallwch gysylltu â nhw eich hun neu gall eich heddlu lleol eich atgyfeirio atynt pan fyddwch yn rhoi gwybod am dwyll. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr yn eich ardal leol isod.

Yn lwcus i fi, ges i gymorth gan Cymorth i Ddioddefwyr, sydd wedi bod yn hanfodol. Gafodd rhywun ei neilltuo i fi a dwi wedi bod yn siarad gyda hi bob wythnos. Ges i gymorth emosiynol ganddi, yn ogystal â chyngor ymarferol i fy helpu i deimlo’n fwy diogel ac i geisio cael fy arian yn ôl.

Cysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol sy’n cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim i ddioddefwyr troseddau a digwyddiadau trawmatig.

Yng Nghymru a Lloegr:

Ffoniwch linell cymorth 24/7 yr elusen am ddim ar 08 08 16 89 111 neu ddechrau Sgwrs Fyw

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.

Yn yr Alban:

Ffoniwch linell gymorth Victim Support Scotland ar 0800 160 1985 (llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 8pm)

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu.

Yng Ngogledd Iwerddon:

I wneud apwyntiad i siarad â rhywun o Victim Support NI, ffoniwch eich canolfan leol:

Belfast 02890 243133

Foyle 02871 370086

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu.

Rhoi gwybod am dwyll

P’un ai eich bod wedi gweld rhywbeth amheus neu wedi dioddef twyll, dylech roi gwybod am y peth bob amser. Cewch gymorth i adfer unrhyw golledion a gallech helpu i’w atal rhag digwydd i eraill.