Os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n rhedeg busnes, dylai twyll a seiberddiogelwch fod yn bwysig iawn i chi.
Mae traean (32%) o fusnesau wedi dioddef ymosodiad seiber yn ystod y 12 mis diwethaf.*
*Ffynhonnell: Arolwg Llywodraeth y DU o doriadau seiberddiogelwch, Ebrill 2023
Efallai nad dyma’r peth mwyaf cyffrous am redeg busnes, ond mae unrhyw beth gallwch chi ei wneud i leihau’r perygl o golli arian neu enw da yn hollbwysig i lwyddiant eich sefydliad. Treuliwch amser nawr yn edrych ar y cyngor ar y wefan hon a dysgu pa gamau gallwch chi eu cymryd i ddiogelu eich busnes rhag twyll.
Ar ben hynny, bydd y dolenni isod yn eich arwain at wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i fod yn fwy seiberddiogel.
Cyngor seiberddiogelwch i bobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr
Cyngor seiberddiogelwch i ddiogelu eich busnes a’ch technoleg hanfodol.
Cyngor seiberddiogelwch i sefydliadau bach a chanolig
Cyngor seiberddiogelwch i fusnesau, elusennau, clybiau ac ysgolion â hyd at 250 o weithwyr.
Cynllun Gweithredu Seiber
Mae’r adnodd am ddim hwn yn cynnig cynllun gweithredu personol i helpu i ddiogelu eich busnes yn erbyn ymosodiadau seiber. Atebwch ychydig o gwestiynau syml i ddechrau arni.
Hyfforddiant ar-lein am ddim i staff
Mae’r hyfforddiant syml, am ddim hwn yn cymryd llai na 30 munud a bydd yn eich helpu chi a’ch staff i ddiogelu eich busnes yn erbyn ymosodiadau seiber.
Adnodd gwirio eich seiberddiogelwch
Drwy ddim ond clicio botwm, bydd y gwasanaeth am ddim hwn yn gwirio eich gwefan, eich e-bost a’ch porwr – ac yn dangos i chi sut mae trwsio unrhyw wendidau.
Gwasanaeth Rhybudd Cynnar
Gwasanaeth NCSC am ddim i roi gwybod i’ch sefydliad am fygythiadau seiber posibl ar eich rhwydwaith gan ddefnyddio ffrydiau gwybodaeth gan yr NCSC a ffynonellau cyhoeddus, masnachol a chaeedig dibynadwy gan ddefnyddio ffrydiau unigryw.
Hanfodion Seiber
Unwaith y bydd gennych chi’r hanfodion yn eu lle, efallai y byddwch yn dymuno mabwysiadu’r cynllun Hanfodion Seiber. Bydd yn diogelu eich busnes yn erbyn yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin ac yn dangos i’ch cwsmeriaid a’ch cyflenwyr bod gennych chi fesurau seiberddiogelwch da ar waith.