Diogelu eraill rhag twyll

Ydych chi’n poeni am rywun a allai fod yn agored i niwed drwy dwyllo? Y newyddion da yw bod gwybodaeth yn adnodd pwerus yn erbyn troseddwyr. Po anoddaf y gallwn wneud pethau i dwyllwyr, y llai tebygol ydym ni o ddioddef twyll. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • treulio amser yn siarad â ffrindiau a theulu i drafod sut gallant ddiogelu eu hunain yn erbyn twyll
  • defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon i ddeall gwahanol fathau o dwyll a meddwl pa gamau gallen nhw fod yn eu cymryd i leihau’r perygl o ddioddef twyll eu hunain
  • sôn am dwyll yn eich sgyrsiau o ddydd i ddydd gyda theulu, ffrindiau a chymdogion
  • cynnig helpu gydag atebion technegol fel gwirio a diweddaru meddalwedd a gosodiadau diogelwch – dydy pawb ddim yn deall technoleg cystal ac efallai fod ganddynt gywilydd gofyn am gymorth
  • rhoi gwybod iddynt y gallan nhw siarad â chi os ydyn nhw’n amheus o unrhyw e-byst, galwyr diwahoddiad, gwefannau neu hysbysebion, neu os ydyn nhw’n meddwl eu bod wedi dioddef twyll
  • cytuno ar ymadrodd diogel gyda’ch ffrindiau agos a’ch teulu i’w helpu i wirio gyda phwy y maent yn siarad ar y ffôn – peidiwch byth â rhannu’r ymadrodd hwn y tu allan i’ch teulu neu ffrindiau agos

Friends Against Scams

Mae Friends Against Scams yn fenter genedlaethol sy’n anelu at ddiogelu ac atal pobl rhag dioddef twyll. Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan, o ddysgu rhagor am dwyll i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth yn eich cymuned leol, a llawer mwy.

Ydych chi’n credu bod rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef twyll?

Dysgwch sut mae rhoi gwybod am dwyll a sut mae adfer unrhyw golledion.

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.