Diogelu eraill rhag twyll

Ydych chi’n poeni am rywun a allai fod yn agored i niwed drwy dwyllo? Y newyddion da yw bod gwybodaeth yn adnodd pwerus yn erbyn troseddwyr. Po anoddaf y gallwn wneud pethau i dwyllwyr, y llai tebygol ydym ni o ddioddef twyll. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • treulio amser yn siarad â ffrindiau a theulu i drafod sut gallant ddiogelu eu hunain yn erbyn twyll
  • defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon i ddeall gwahanol fathau o dwyll a meddwl pa gamau gallen nhw fod yn eu cymryd i leihau’r perygl o ddioddef twyll eu hunain
  • sôn am dwyll yn eich sgyrsiau o ddydd i ddydd gyda theulu, ffrindiau a chymdogion
  • cynnig helpu gydag atebion technegol fel gwirio a diweddaru meddalwedd a gosodiadau diogelwch – dydy pawb ddim yn deall technoleg cystal ac efallai fod ganddynt gywilydd gofyn am gymorth
  • rhoi gwybod iddynt y gallan nhw siarad â chi os ydyn nhw’n amheus o unrhyw e-byst, galwyr diwahoddiad, gwefannau neu hysbysebion, neu os ydyn nhw’n meddwl eu bod wedi dioddef twyll

Friends Against Scams

Mae Friends Against Scams yn fenter genedlaethol sy’n anelu at ddiogelu ac atal pobl rhag dioddef twyll. Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan, o ddysgu rhagor am dwyll i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth yn eich cymuned leol, a llawer mwy.

Ydych chi’n credu bod rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef twyll?

Dysgwch sut mae rhoi gwybod am dwyll a sut mae adfer unrhyw golledion.

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.