Mae dilysu dau gam (2SV) yn ychwanegu lefel arall o ddiogelwch at eich cyfrifon pwysicaf, yn enwedig eich e-bost. Mae modd ei alluogi mewn ychydig funudau – ffordd werth chweil o dreulio amser os yw’n cadw’r twyllwyr draw.
Sut mae dilysu dau gam yn gweithio?
Mae dilysu dau gam yn gweithio drwy ofyn am ragor o wybodaeth i brofi pwy ydych chi. Er enghraifft, drwy anfon PIN neu god cyfrin untro i’ch ffôn pan fyddwch yn mewngofnodi ar ddyfais newydd neu’n newid gosodiadau fel eich cyfrinair. Neu efallai y byddwch yn gallu defnyddio eich ôl bys neu eich wyneb i gael mynediad at eich cyfrif. Pa ffordd bynnag, mae dilysu dau gam yn cadarnhau mai chi sy’n ceisio mewngofnodi go iawn.
Felly hyd yn oed os bydd troseddwyr yn gwybod eich cyfrinair, ni fydd yn gallu cael mynediad at eich cyfrifon. Dilysu dau gam yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu eich cyfrifon ar-lein rhag troseddwyr.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn defnyddio dilysu dau gam ar gyfer eich cyfrifon e-bost a chyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw gyfrifon sy’n cynnwys llawer o wybodaeth bersonol neu sensitif. Bydd dilysu dau gam wedi’i alluogi’n ddiofyn ar gyfer eich cyfrif bancio ar-lein yn ôl pob tebyg.
Sut mae galluogi dilysu dau gam
Fel arfer mae modd galluogi dilysu dau gam drwy osodiadau diogelwch y cyfrif. Efallai y bydd rhai dyfeisiau’n cyfeirio ato fel dilysu dau ffactor (2FA) neu ddilysu aml-ffactor (MFA).
Methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano? Tarwch olwg ar adran cymorth a chefnogaeth gwefan swyddogol darparwr y cyfrif, a ddylai ddarparu cyfarwyddiadau manwl.
Neu dilynwch y dolenni hyn at y cyfarwyddiadau gosod ar gyfer gwasanaethau a dyfeisiau penodol.
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfrifon eraill
Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun
Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.