Croeso i Hwb Partneriaid ymgyrch genedlaethol Stopiwch! Twyll tybed? Ymgyrch gyhoeddus yw hon, ac rydyn ni’n falch o’i chyflawni gyda’n partneriaid. Mae eich lleisiau a’ch rhwydweithiau chi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae’r tudalen yma yn darparu popeth sydd arnoch ei angen i ategu ac ehangu’r ymgyrch i helpu unigolion a busnesau bach i adnabod twyll a chymryd camau i’w hamddiffyn eu hunain. Gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl i gadw’n ddiogel a gwneud gwaith atal twyll yn rhan o fywyd bob dydd.
Crynodeb o’r ymgyrch
Mae twyll yn effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn – a gall unrhyw un ddioddef. Er bod rhaid inni barhau i dargedu’r troseddwyr sydd y tu ôl i dwyll, rydyn ni’n gwybod hefyd mai un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu’r cyhoedd yw sicrhau eu bod yn wybodus iawn am sut i’w hamddiffyn eu hunain.
Cafodd Stopiwch! Twyll tybed? ei ddatblygu gan y Swyddfa Gartref, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, Heddlu Dinas Llundain a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a thrwy ymgynghori â rhanddeiliaid ar draws cyllid, bancio, technoleg, telathrebu, y byd academaidd, plismona a grwpiau cymorth dioddefwyr.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar dwyll awdurdodedig lle gall cyfathrebu dorri ar draws y siwrnai dwyll a’r nod yw:
- cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd eiliad i bwyllo a meddwl pan gân nhw gyfathrebiadau amheus a gwirio a ydy’r cais yn ddilys.
- cynyddu’r defnydd ar ddilysiad dau gam ymhlith unigolion a busnesau bach i gadw eu cyfrifon ar-lein yn ddiogel.
Uchelgais Stopiwch! Twyll tybed? yw symleiddio’r dirwedd gyfathrebu a rhoi cyngor syml, ymarferol i unigolion a busnesau bach amddiffyn eu hunain rhag twyll. Trwy roi cyngor cyson, gyda’n gilydd byddwn yn cynyddu’r defnydd o ymddygiad amddiffynnol ac yn lleihau’r risg y bydd pobl yn agored i dwyll. ity to fraud.
Calendr cyfryngau cymdeithasol
Mae’r calendr cyfryngau cymdeithasol yn darparu gweithgareddau ymgyrchu wedi’u trefnu, awgrymiadau ar gyfer postiadau a dyddiadau allweddol i bartneriaid eu defnyddio ar draws eu sianeli.
Sylwch mai at ddefnydd mewnol yn unig y bwriedir hyn ac na ddylai gael ei rannu gyda’r cyhoedd. Cewch lawrlwytho’r calendr yma.
Asedau ymgyrchu
Dyma’n cyfres lawn o asedau ymgyrchu i chi eu lawrlwytho:
Matrics negeseuon
I helpu’r partneriaid a sicrhau cyngor cyson rydyn ni wedi datblygu matrics negeseuon ichi gyfeirio ato, sydd ar gael drwy’r ddolen isod. Cewch lawrlwytho’r matrics negeseuon yma.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau, os oes angen cymorth, neu os hoffech drafod cyfleoedd cydfrandio, anfonwch neges ebost at y tîm yn StopThinkFraud@homeoffice.gov.uk