Ar ôl rhoi gwybod am dwyll, mae’n gallu teimlo fel petai pethau wedi tawelu, ond cofiwch y bydd y timau twyll yn gweithio’n galed yn y cefndir, gyda sefydliadau partner yn aml, i roi’r wybodaeth at ei gilydd. Fe all y wybodaeth honno helpu i atal gweithgarwch twyllodrus a diogelu eraill, yn ogystal â helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r troseddwyr.
Action Fraud
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i Action Fraud, mae eich gwybodaeth yn cael ei hanfon at y Swyddfa Gwybodaeth am Dwyll Genedlaethol, sy’n cael ei rhedeg gan yr heddlu. Mae’r Swyddfa’n casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am dwyll, gan nodi pa drywydd ymholi dylid ei ddilyn a phasio’r manylion i heddluoedd lleol. Cyfrifoldeb heddluoedd yw asesu’r wybodaeth sy’n cael ei phasio iddynt a phenderfynu a ddylid agor ymchwiliad ai peidio.
Bydd y wybodaeth gennych chi yn ychwanegu at gronfa wybodaeth yr heddlu am dwyll, gan gynnwys pwy sy’n cael ei dargedu, pwy sydd wrth wraidd y peth a pha dactegau maen nhw’n eu defnyddio. Mae hyn yn cyfrannu at wneud y DU yn lle mwy anghyfeillgar i dwyllwyr weithredu ac yn helpu i ddiogelu dioddefwyr posib eraill.
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn dadansoddi unrhyw e-byst a gwefannau amheus sy’n cael eu hadrodd iddi. Os bydd yn dod i’r casgliad bod y gweithgarwch yn faleisus neu’n dwyllodrus, bydd yn gweithio gyda’r cwmnïau lletya i dynnu’r gwefannau maleisus a’r seilwaith cysylltiedig, ac yn ceisio atal cyfeiriadau e-bost i’w rhwystro rhag anfon rhagor o negeseuon.
Hyd at fis Rhagfyr 2023, mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi tynnu 161,000 o URLs ffug*
*Ffynhonnell: Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
7726
Bydd eich darparwr ffôn yn ymchwilio i darddiad y neges destun ac yn trefnu atal neu wahardd yr anfonwr os yw’n credu ei bod yn neges faleisus.
Eich banc
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’ch banc, bydd yn gallu rhoi cymorth i chi ar unwaith i atal taliadau amheus ac ychwanegu mesurau diogelwch at eich cyfrif. Bydd hefyd yn delio â cheisiadau i hawlio’ch arian yn ôl.
Dysgwch fwy am y camau gallwch eu cymryd os ydych chi wedi colli arian.