Ni ddylai unrhyw un deimlo cywilydd am roi gwybod am dwyll. Bydd twyllwyr yn defnyddio pob ffordd bosib o berswadio pobl i roi eu harian gwerthfawr. Mae hyn yn golygu bod pawb mewn perygl o ddioddef twyll.
Drwy wybod mwy, fe allwn roi mwy o gymorth
Dyna pam ei bod yn hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod am dwyll bob amser rydych chi’n dod ar ei draws, er mwyn i ni allu dysgu cymaint â phosib am y drosedd hon a sut mae ei lleihau.
Mae rhoi gwybod am dwyll yn helpu i nodi ac atal twyllwyr, ac yn y pen draw, i atal pobl eraill rhag cael eu targedu.
Mae 24% o bobl yn y DU yn dweud nad ydyn nhw’n debygol iawn o roi gwybod am dwyll yn y DU*, ond gyda’ch help chi, fe allwn frwydro’n ôl a gwneud pethau’n anoddach i droseddwyr.
*Ffynhonnell: Arolwg Yonder yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, Ionawr 2022
Cymorth ar ôl twyll
Rheswm da arall dros roi gwybod am dwyll yw y cewch gymorth i’ch helpu i ddelio â’r profiad. Bydd hyn yn gallu delio â’r camau ymarferol i adfer unrhyw arian neu ddata rydych chi wedi’i golli, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol.
Adfer ar ôl twyll
Cyngor ar gael gafael ar gymorth ar ôl twyll, yn ogystal â’r camau ymarferol gallwch eu cymryd i adfer unrhyw golledion.