Y manylion y bydd angen i chi eu rhoi i Action Fraud

Cyn rhoi gwybod i Action Fraud, casglwch cymaint o fanylion â phosib am beth ddigwyddodd. Gwnewch nodyn o’r canlynol:

  • manylion y sawl sydd wedi cysylltu â chi: enw, rhif ffôn, cyfeiriad gwe, cyfeiriad e-bost neu URL y proffil cyfryngau cymdeithasol
  • dogfennau neu dystiolaeth ategol gan gynnwys e-byst, negeseuon testun neu sgrinluniau
  • sut rydych chi wedi talu unrhyw arian, ee cerdyn credyd, cerdyn debyd neu drosglwyddiad banc
  • beth tynnodd eich sylw at y twyll neu eich gwneud yn amheus

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am dwyll?

Dysgwch beth sy’n digwydd nesaf y tu ôl i’r llenni ar ôl i chi roi gwybod.