Cyn rhoi gwybod i Action Fraud, casglwch cymaint o fanylion â phosib am beth ddigwyddodd. Gwnewch nodyn o’r canlynol:
- manylion y sawl sydd wedi cysylltu â chi: enw, rhif ffôn, cyfeiriad gwe, cyfeiriad e-bost neu URL y proffil cyfryngau cymdeithasol
- dogfennau neu dystiolaeth ategol gan gynnwys e-byst, negeseuon testun neu sgrinluniau
- sut rydych chi wedi talu unrhyw arian, ee cerdyn credyd, cerdyn debyd neu drosglwyddiad banc
- beth tynnodd eich sylw at y twyll neu eich gwneud yn amheus
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am dwyll?
Dysgwch beth sy’n digwydd nesaf y tu ôl i’r llenni ar ôl i chi roi gwybod.