Fyddech chi’n gwybod pe bai rhywun yn ceisio eich twyllo’n ariannol? Byddem yn hoffi meddwl y gallem adnabod sgam o bell – ond mae twyllwyr yn ddidrugaredd a’u dulliau’n dod yn fwyfwy soffistigedig.
Er bod llawer o wahanol fathau o dwyll, a rhai newydd yn dod i’r golwg o hyd, mae rhai tactegau seicolegol y mae twyllwyr yn eu defnyddio’n gyson. Unig bwrpas y tactegau hyn yw cael pobl i ymateb cyn cael amser i aros, meddwl a gwirio bod rhywbeth yn ddidwyll neu beidio.
Un o’n harfau gorau yn erbyn twyll yw gwybodaeth. Os gwyddoch ba dactegau y mae twyllwyr yn eu defnyddio a pha arwyddion i chwilio amdanynt, bydd gennych fwy o siawns o’u hosgoi.
Adnabod y tactegau
Dysgwch am y tactegau seicolegol y mae twyllwyr yn eu defnyddio i’ch cael i ymateb heb gael amser i aros, meddwl a gwirio.
Bod yn wyliadwrus o dwyll
Po fwyaf o wybodaeth fydd gennych, y mwyaf parod y byddwch i adnabod twyll os yw’n digwydd i chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod.
Ble i gadw llygad allan am dwyll
Gall twyll ddigwydd yn rhywle bron. Ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, e-bost, dros y ffôn, ar trothwy eich drws a llefydd eraill. Os gwyddoch ble y gallai sgamwyr droi fyny, byddwch yn fwy tebygol o adnabod rhywbeth amheus pryd a ble bynnag y mae’n digwydd.
Sut i adnabod e-bost gwe-rwydo
Dysgwch am arwyddion e-bost ffug a ddyfeisiwyd i ddwyn eich arian neu wybodaeth bersonol.
Sut i adnabod tecst ffug
Dysgwch am arwyddion tecst ffug a ddyfeisiwyd i ddwyn eich arian neu ddata.
Sut i adnabod twyll ffôn
Dysgwch am yr arwyddion bod rhywun yn ceisio eich twyllo dros y ffôn.
Sut i adnabod hysbyseb ar-lein ffug
Dysgwch am yr arwyddion bod hysbyseb ar wefan, peiriant chwilio neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ffug.
Sut i adnabod gwefan ffug
Dysgwch am arwyddion gwefan ffug a ddyfeisiwyd i gymryd arian am nwyddau sydd ddim yn bodoli neu i roi feirws ar eich dyfais.
Sut i adnabod twyll trothwy drws
Dysgwch am yr arwyddion bod rhywun yn ceisio eich twyllo wyneb yn wyneb.
Sut i adnabod twyll post
Dysgwch am yr arwyddion bod rhywun yn ceisio eich twyllo drwy’r post.