Sut i adnabod twyll trothwy drws

Gall ymddangos yn gwbl haerllug ond mae rhai twyllwyr yn cerdded i fyny atoch i geisio eich sgamio. Gallai fod ar trothwy eich drws neu yn y stryd. Gallent fod yn honni bod yn elusen neu’n adeiladwr yn dweud wrthych fod angen gwneud gwaith ar frys ar eich tŷ. Sut bynnag, yr amcan fel arfer yw eich darbwyllo i drosglwyddo arian am rywbeth sydd ddim yn bodoli.

Rhestr wirio twyll trothwy drws: beth i chwilio amdano

Gall twyllwyr swnio’n gredadwy iawn gan ddefnyddio brys, emosiwn a charisma hen-ffasiwn i’ch darbwyllo i wneud rhywbeth. Ond gallai’r pethau hyn fod yr union gliwiau i ddweud bod rhywbeth o’i le. Dyma rai arwyddion bod rhywun yn ceisio eich twyllo.

Byddwch yn wyliadwrus:

  • os yw’r galwr trothwy drws yn gofyn am arian neu fanylion banc cyn rhoi’r nwyddau i chi – yn aml gyda stori i egluro pam fod angen yr arian ymlaen llaw
  • os ydyn nhw’n dweud eu bod yn gwneud gwaith i’ch cymdogion – tacteg i wneud ichi ymddiried ynddynt
  • rydych yn teimlo dan bwysau i benderfynu’n sydyn
  • nid oes ganddynt fathodyn neu brawf ID neu o bwy y maen nhw’n gweithio iddynt
  • maen nhw’n mynd yn amddiffynnol neu’n newid tôn eu llais pan ofynnwch gwestiynau neu am amser i ystyried y cynnig

Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll

Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!

  • torrwch y cysylltiad – dywedwch na dim diolch a chau’r drws
  • peidiwch â throsglwyddo unrhyw arian na gwybodaeth bersonol – ni ddylech byth dalu am nwyddau heb eu derbyn neu waith heb ei gwblhau
  • peidiwch byth â gadael iddynt roi pwysau arnoch i benderfynu’n sydyn – bydd masnachwr go iawn yn fodlon dod yn ôl
  • gwiriwch i weld ydyn nhw’n ddiffuant: gofyn i ffrindiau a chymdogion ydy’r cwmni’n gyfarwydd neu holi Safonau Masnach

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r galwr trothwy drws yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi rhannu gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo ar trothwy eich drws, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdano.