Beth i’w wneud os ydych chi wedi colli arian

Os ydych chi wedi colli arian i dwyllwr, gwnewch eich gorau i aros yn bwyllog. Cysylltwch â’ch banc ar unwaith ar rif dibynadwy (er enghraifft yr un ar gefn eich cerdyn neu ar wefan y banc, neu ffoniwch 159) ac esbonio beth sydd wedi digwydd. Yn dibynnu ar sut cafodd y taliad ei wneud, efallai y byddwch yn gallu cael eich arian yn ôl. Dyma’r camau i’w cymryd i adfer unrhyw golledion ariannol.

Sut gwnaethoch chi’r taliad?

Cerdyn debyd

Cyn gynted â’ch bod yn sylwi bod y taliad cerdyn yn rhan o dwyll, ffoniwch eich banc ac esbonio beth sydd wedi digwydd.

Os byddwch yn gweithredu’n gyflym, efallai y bydd yn gallu adfer eich arian yn gyflymach neu atal yr arian rhag gadael eich cyfrif hyd yn oed.

Os yw’n rhy hwyr i hynny, efallai y bydd yn dal yn gallu eich ad-dalu gan ddefnyddio cynllun y diwydiant o’r enw Chargeback – sy’n gymwys ar gyfer taliadau hyd at £100.

Ffoniwch eich banc ar rif dibynadwy bob amser, fel yr un ar gefn eich cerdyn banc neu ar eich cyfriflenni banc, neu ffoniwch 159.

Trosglwyddiad banc

Os ydych chi’n sylwi neu’n amau eich bod wedi awdurdodi trosglwyddiad o’ch cyfrif i un sy’n perthyn i dwyllwr, cysylltwch â’ch banc ar unwaith. Dywedwch beth yw rhif y cyfrif banc sydd wedi derbyn yr arian a bydd yn mynd ar drywydd yr arian. Mewn llawer o achosion, bydd eich banc yn eich ad-dalu.

Ffoniwch eich banc ar rif dibynadwy bob amser, fel yr un ar gefn eich cerdyn banc neu ar eich cyfriflenni banc, neu ffoniwch 159.

Cerdyn credyd

Os ydych chi wedi defnyddio eich cerdyn credyd i dalu am nwyddau neu wasanaethau sydd heb ddod i’r amlwg, ffoniwch eich darparwr cerdyn credyd cyn gynted â’ch bod yn sylwi beth sydd wedi digwydd.

Efallai y bydd y darparwr yn gallu defnyddio amddiffyniad cyfreithiol o’r enw Adran 75 (o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr) neu’r cynllun Chargeback i helpu i gael eich arian yn ôl.

PayPal

Cysylltwch â PayPal yn uniongyrchol. Os yw twyllwr wedi cael taliad am eitem ond heb ei chyflenwi, dylai polisi Diogelu Defnyddwyr PayPal eich helpu i gael yr arian yn ôl.

Nid yw’r amddiffyniad hwn yn berthnasol os yw’r twyllwr wedi sefydlu tudalen PayPal ffug a’ch bod wedi gwneud taliad i’r dudalen honno, neu eich bod wedi anfon yr arian o dan “teulu a ffrindiau”. Yn yr achosion hyn, dylech roi gwybod am y twyll ond rydych chi’n annhebygol o gael eich arian yn ôl.

Arian parod

Mae’n anodd iawn olrhain ac adfer taliadau i dwyllwr mewn arian parod neu dalebau. Ond dylech roi gwybod am y twyll beth bynnag er mwyn helpu i atal yr un peth rhag digwydd i bobl eraill.

Trosglwyddiad gwifren

Rydych chi’n annhebygol o gael eich arian yn ôl os ydych chi wedi talu drwy wasanaeth gwifren fel MoneyGram, PayPoint neu Western Union. Ond gallwch roi gwybod am y twyll er mwyn helpu i atal yr un peth rhag digwydd i bobl eraill.

Heb wneud neu awdurdodi’r taliad

Os ydych chi’n gweld trafodyn ar eich cerdyn nad ydych chi wedi’i wneud, neu fod y swm yn fwy na’r disgwyl, mae eich banc yn debygol o’ch ad-dalu. Cysylltwch â’ch banc ar unwaith neu ffoniwch 159 er mwyn rhewi eich cerdyn yn y cyfamser.

Cael trafferth cael eich arian yn ôl?

Os ydych chi wedi siarad â’ch banc neu ddarparwr cerdyn pan fyddwch yn credu bod gennych hawl i ad-daliad, ond ei fod yn cael ei wrthod, gallwch wneud y canlynol:

1: Cwyno’n ffurfiol i’ch banc

Os ydych chi’n credu bod gennych hawl i ad-daliad am arian rydych chi wedi’i golli i dwyll, ac nad ydych chi’n credu bod eich banc wedi delio â’ch achos yn gywir, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig i ofyn i’r banc ailystyried y penderfyniad. Cofiwch fod gan eich banc ddyletswydd i ddiogelu eich arian ac y dylai wneud popeth posib i adfer unrhyw arian rydych chi wedi’i golli. Darparwch gymaint o dystiolaeth â phosib i ddangos pam nad chi oedd ar fai am golli’r arian.

2: Cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd mae eich banc wedi delio â’ch hawliad, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer ar-lein, gan gynnwys cymaint o dystiolaeth â phosib. Gall gymryd ychydig fisoedd, ond os bydd ymchwilwyr y Gwasanaeth yn penderfynu nad oedd eich banc neu ddarparwr cerdyn wedi dilyn y rheolau, gallent ofyn iddynt eich ad-dalu a thalu iawndal i chi hyd yn oed.

Sut arall gallwn ni helpu?

Rhoi gwybod am dwyll

Dysgwch sut mae rhoi gwybod am dwyll a helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r troseddwyr sydd wrth wraidd twyll.

Cymorth ar ôl twyll

Dysgwch sut mae cael cymorth i ddelio ag effaith ymarferol ac emosiynol twyll.