Beth i’w wneud os yw eich dyfais wedi’i heintio

Mae seiberdroseddwyr yn gwneud eu gorau i gael pobl i lwytho feirysau neu fathau eraill o feddalwedd faleisus (maleiswedd) i lawr, er mwyn iddynt allu cael arian, data neu fynediad at ddyfeisiau a chyfrifon preifat. Gellir heintio dyfais pan fydd rhywun yn clicio dolen amheus neu’n rhoi mynediad o bell at eu cyfrifiadur neu ddyfais arall i dwyllwr yn anfwriadol.

Os ydych chi’n credu bod eich cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn wedi cael ei heintio â feirws neu faleiswedd, PEIDIWCH â mewngofnodi i unrhyw gyfrifon, oherwydd gallai’r faleiswedd ddwyn y manylion hynny. Yn hytrach, dylech ddilyn y camau hyn i dynnu’r haint ac adfer eich dyfais.

1. Ar gyfrifiadur neu liniadur: rhedeg meddalwedd gwrthfeirysau

Mae cynnyrch gwrthfeirysau yn gweithio drwy ganfod a thynnu feirysau a mathau eraill o feddalwedd faleisus o’ch cyfrifiadur neu liniadur.

Mae’r rhan fwyaf o systemau gweithredu ar gyfrifiaduron Windows ac Apple yn cynnwys meddalwedd gwrthfeirysau (e.e. Windows Defender). Gallwch hefyd brynu cynnyrch gwrthfeirysau ar wahân, fel McAfee, Norton ac Avast.

Os oes gennych gynnyrch gwrthfeirysau, rhedwch sgan a dilyn y cyngor.

Os na all eich cynnyrch gwrthfeirysau lanhau eich dyfais, bydd rhaid i chi ddileu ac ailosod popeth, gan ddechrau gyda’ch system weithredu. Efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch i wneud hyn.

2. Ar ffôn neu ddyfais tabled: ailosod yn gyfan gwbl

Fel arfer, ni all cynnyrch gwrthfeirysau drwsio ffonau a dyfeisiau tabled yn yr un ffordd â chyfrifiaduron a gliniaduron.

Yr ateb mwyaf diogel yw ailosod y ddyfais yn gyfan gwbl – efallai y bydd y ddyfais yn ei alw’n ‘factory reset’. Mae’r opsiwn hwn ar gael yng ngosodiadau y ddyfais fel arfer.

Yn ogystal â thynnu unrhyw faleiswedd, bydd ailosod yn gyfan gwbl yn dileu’r holl ddata ar eich dyfais, gan gynnwys negeseuon, cysylltiadau, lluniau, hanes pori, cyfrineiriau ac apiau.

Os oeddech chi’n cadw copi wrth gefn o’ch data yn rheolaidd cyn i’r ddyfais gael ei heintio, byddwch yn gallu adfer y rhan fwyaf ohono yn nes ymlaen. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu cael y data yn ôl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y manylion mewngofnodi ar gyfer unrhyw wasanaethau ar-lein, dyfeisiau clyfar neu apiau rydych chi’n eu defnyddio drwy’r ddyfais hon cyn dileu eich data.

Mae’n bwysig peidio â chadw copi wrth gefn o’ch data cyn ailosod yn gyfan gwbl. Os gwnewch chi, bydd y copi wrth gefn hefyd yn cynnwys y faleiswedd. Am yr un rheswm, pan fyddwch yn cael yr opsiwn i adfer copïau wrth gefn, dylech wneud hynny dim ond os ydych chi’n siŵr bod y copïau wedi’u creu cyn i chi osod y faleiswedd. Os nad ydych chi’n siŵr, dylech ailosod yn gyfan gwbl a pheidio ag adfer unrhyw ddata wrth gefn.

3. Adfer eich data wrth gefn

Os ydych chi wedi trwsio’r haint drwy gynnyrch gwrthfeisyrau a/neu wedi clirio eich dyfais, gallwch nawr adfer y data o’ch copi wrth gefn da, ‘hysbys’ diwethaf.

Yn anffodus byddwch yn colli unrhyw ddata nad oedd wedi’i gadw mewn copi wrth gefn, ond os byddwch yn ceisio achub data pan fydd haint yn dal ar eich dyfais, mae’n bosib y bydd yr haint yn dal yno ar ôl clirio ac ailosod.

Pan fyddwch yn cael yr opsiwn i adfer copïau wrth gefn, dylech wneud hynny dim ond os ydych chi’n siŵr bod y copïau wedi’u creu cyn i chi osod y faleiswedd. Os nad ydych chi’n siŵr, dylech ailosod yn gyfan gwbl a pheidio ag adfer unrhyw ddata wrth gefn.

4. Newid eich cyfrineiriau

Os ydych chi wedi mewngofnodi i unrhyw gyfrifon ers gosod y faleiswedd, mae’n hollbwysig eich bod yn newid cyfrinair y cyfrif hwnnw, oherwydd gallai rhywun fod wedi’i ddwyn. Os ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair hwnnw ar gyfer unrhyw gyfrifon eraill, bydd angen i chi newid y cyfrineiriau hynny hefyd, gan wneud yn siŵr bod pob un yn unigryw. Os hoffech chi gael help yn dewis ac yn rheoli cyfrineiriau cryf, dilynwch ein cyngor ar gyfer gwneud eich cyfrineiriau’n fwy diogel.

5. Diogelu eich dyfeisiau rhag ymosodiadau seiber yn y dyfodol

Dilynwch ein cyngor ar eich cadw chi a’ch dyfeisiau yn ddiogel. Gan gynnwys diweddaru meddalwedd, defnyddio meddalwedd gwrthfeirysau, cadw copïau wrth gefn o’ch data a gwella eich cyfrineiriau, dyma sut mae eich diogelu chi ac eraill.

Sut arall gallwn ni helpu?

Rhoi gwybod am dwyll

Dysgwch sut mae rhoi gwybod am dwyll a helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r troseddwyr sydd wrth wraidd twyll.

Cymorth ar ôl twyll

Dysgwch sut mae cael cymorth i ddelio ag effaith ymarferol ac emosiynol twyll.