Beth i’w wneud os oes rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth

Dwyn hunaniaeth yw dwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol person. Efallai y bydd troseddwyr yn dod o hyd i’r wybodaeth hon ar-lein, yn dwyn dogfennau ffisegol fel trwydded yrru neu basbort, neu hyd yn oed yn twrio drwy sbwriel person i ddod o hyd i fanylion personol ar filiau, cyfriflenni banc, anfonebau a derbynebau.

Ar ôl cael gafael ar fanylion o’r fath, gallai twyllwr fynd ati i gyflawni twyll hunaniaeth – agor cyfrifon yn enw’r dioddefwr, cymryd rheolaeth o’u cyfrif banc, neu wneud cais am gredyd heb fwriadu ei ad-dalu.

Os ydych chi’n amau bod rhywun wedi cael gafael ar wybodaeth amdanoch ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i esgus bod yn chi, cymerwch gamau ar unwaith i ddiogelu eich hunaniaeth a gwneud yn siŵr nad ydych chi’n atebol am unrhyw golledion ariannol.

Dyma beth i’w wneud

Cysylltu â’ch banc

Gofynnwch i’ch banc ddal unrhyw drafodion sy’n aros yn ôl a holwch beth yw’r broses hawlio os oes arian wedi cael ei gymryd drwy dwyll.

Newid eich cyfrineiriau a’ch PINs

Dylai hyn gynnwys cyfrifon banc, cyfeiriadau e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Cofrestru gyda Cifas

Cifas yw cymuned atal twyll y DU. Am £25, gallwch gael Cofrestriad Amddiffynnol am ddwy flynedd, sy’n dweud wrth unrhyw sefydliad Cifas (sy’n cynnwys y rhan fwyaf o fanciau, darparwyr credyd a chwmnïau telegyfathrebu) i gynnal archwiliadau ychwanegol pan fydd eich enw neu eich manylion yn cael eu defnyddio i wneud cais am eu gwasanaethau.

Wedi colli dogfennau neu rywun wedi dwyn dogfennau?

Rhowch wybod i’r sefydliad sydd wedi’u cyhoeddi, fel yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu’r banc. Dylech hefyd roi gwybod i’r heddlu bod rhywun wedi dwyn eich dogfennau a gofyn am gyfeirnod trosedd.

Trafodion anarferol ar eich cyfriflen banc?

Rhowch wybod i’ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu eich cwmni cerdyn credyd ar unwaith.

Edrychwch ar eich adroddiad credyd

Bydd hyn yn dangos a oes unrhyw un wedi bod yn gwneud ceisiadau am gredyd gan ddefnyddio eich manylion adnabod. Y tair prif asiantaeth gwirio credyd yn y DU yw:

Does dim rhaid talu am wiriad credyd ac ni fydd yn effeithio ar eich sgôr credyd, felly efallai ei bod yn syniad da gwirio gyda phob un.

Ceisiadau amheus am gredyd?

Rhowch wybod am unrhyw beth nad ydych chi’n ei adnabod i’r asiantaethau gwirio credyd, a fydd yn rhoi gwybod i’r benthyciwr perthnasol. Bydd y benthyciwr yn ymchwilio ac yn cymeradwyo’r cais i dynnu’r cais am gredyd o’ch adroddiad credyd. Gall hyn gymryd ychydig o wythnosau, felly’r cynharaf rydych chi’n rhoi gwybod, y cynharaf y bydd eich cofnodion yn cael eu diweddaru.

Credyd wedi’i gymryd yn eich enw?

Dywedwch wrth y banc neu’r benthyciwr ar unwaith. Dylech hefyd roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgarwch twyllodrus a gofyn am gyfeirnod trosedd.

Poeni am yr effaith ar eich sgôr credyd?

Ystyriwch ychwanegu lefel arall o ddiogelwch at eich adroddiad credyd, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i dwyllwyr esgus bod yn chi. Dyma ddau opsiwn.

1. Hysbysiad twyll ar eich adroddiad credyd

Mae hyn yn golygu bod rhaid i fenthycwyr gynnal archwiliadau hunaniaeth ychwanegol cyn cynnig credyd yn eich enw. Mae’n rhaid talu am y gwasanaeth hwn drwy asiantaeth gwirio credyd.

2. Cyfrinair Hysbysiad Cywiro

Gellir ychwanegu hwn at eich adroddiad credyd am ddim. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis rhywbeth na fyddai unrhyw un yn gallu ei ddyfalu. Os bydd rhywun yn gwneud cais am gredyd yn eich enw – gan gynnwys chi – rhaid i’r benthyciwr ofyn am y cyfrinair hwn cyn benthyg yr arian i chi.

Rhestr wirio dioddefwr dwyn hunaniaeth

I gael rhagor o gyngor ar beth i’w wneud os oes achos o ddwyn hunaniaeth wedi effeithio arnoch, tarwch olwg ar y rhestr wirio ddefnyddiol hon ar wefan Action Fraud.

Sut arall gallwn ni helpu?

Rhoi gwybod am dwyll

Dysgwch sut mae rhoi gwybod am dwyll a helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r troseddwyr sydd wrth wraidd twyll.

Cymorth ar ôl twyll

Dysgwch sut mae cael cymorth i ddelio ag effaith ymarferol ac emosiynol twyll.