Mae twyllwyr yn defnyddio sgamiau ‘gwe-rwydo’ (‘phishing’) yn aml – e-byst, negeseuon neu alwadau ffôn ffug – yn gofyn i chi ddiweddaru manylion eich cyfrif neu eich cyfrinair. Os byddwch yn gwneud hynny, gallant ddefnyddio’r manylion hynny i esgus bod yn chi, cael mynediad at eich cyfrifon ar-lein eraill neu wneud taliadau twyllodrus.
Cyn gynted â’ch bod yn amau eich bod wedi rhannu gwybodaeth sensitif â thwyllwr, mae angen i chi roi gwybod i’r bobl berthnasol a chymryd camau i ddiogelu eich cyfrifon.
Wedi rhannu manylion banc? Rhowch wybod i’ch banc
Os ydych chi wedi rhoi eich manylion banc i dwyllwr, cysylltwch â’ch banc ar unwaith ac esbonio beth sydd wedi digwydd – hyd yn oed os nad oes arian wedi gadael y cyfrif eto. Bydd y banc yn helpu i ddiogelu eich cyfrif, er enghraifft drwy ganslo eich cerdyn neu ddangos i chi sut mae newid eich manylion diogelwch.
Wedi rhannu cyfrinair? Dylech ei newid ar unwaith
Os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cael gafael ar gyfrinair neu PIN, dylech ei newid ar unwaith. Dylech allu gwneud hyn yn adran gosodiadau cyfrif neu ddiogelwch cyfrif eich cyfrif ar-lein.
Os ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer unrhyw gyfrifon neu wefannau eraill, bydd angen i chi newid y rhai hynny hefyd.
Os yw eich cyfrineiriau’n cynnwys geiriau a rhifau a allai fod yn hawdd eu dyfalu, ystyriwch yr awgrymiadau gwych hyn ar gyfer gwneud cyfrineiriau’n fwy diogel, gan gynnwys dewis cyfrineiriau hirach a chryfach, a’u storio mewn adnodd rheoli cyfrineiriau.
Byddwch yn wyliadwrus o dwyll pellach
Os ydych chi wedi rhannu’r wybodaeth hon ar ôl cael eich gwe-rwydo, mae’n bosib y cewch eich targedu eto. Mae hyn oherwydd bod twyllwyr yn ychwanegu manylion dioddefwyr at restrau maen nhw wedyn yn eu gwerthu i droseddwyr eraill. Yn ystod y misoedd ar ôl ymosodiad gwe-rwydo, byddwch yn wyliadwrus iawn o unrhyw un sy’n gofyn i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol fel manylion banc, cyfrineiriau, cyfrineiriau untro (OTPs) a PINs.
Ni fydd unrhyw sefydliad swyddogol, fel eich banc neu Gyllid a Thollau EF, byth yn cysylltu â chi’n annisgwyl yn gofyn i chi rannu neu ddiweddaru manylion personol neu ariannol cyfrinachol. Ni fyddant byth yn gofyn am eich cyfrinair llawn, am OTP na PIN – ac ni ddylech byth rannu’r rhain ag unrhyw un.
Sut arall gallwn ni helpu?
Beth i’w wneud os ydych chi wedi colli arian
Dysgwch a fyddwch yn gallu adfer unrhyw arian rydych chi wedi’i golli i dwyll.
Cymorth ar ôl twyll
Dysgwch sut mae cael cymorth i ddelio ag effaith ymarferol ac emosiynol twyll.