Mae twyllwyr yn hoff o dargedu pobl pan fyddant yn ei ddisgwyl leiaf. Un ffordd o wneud hynny yw pan fyddwn gartref, a ddim yn ddrwgdybus. Ond mae rhai ffyrdd hawdd o ddiogelu ein hunain yn well – gyda rhywfaint o wybodaeth am sut mae twyllwyr yn gweithio a’i gwneud hi’n anoddach iddynt ein targedu yn y lle cyntaf.
Ar y dudalen hon:
Twyll stepen drws
Beth yw hyn?
Ystyr twyll stepen drws, neu dwyll drws i ddrws, yw pan fydd masnachwr twyllodrus neu dwyllwr arall yn cnocio eich drws yn annisgwyl, gan gynnig cynnyrch neu wasanaethau i chi, a gofyn i chi dalu amdanynt ymlaen llaw o bosib. Yn aml, bydd hyn yn golygu rhywun yn cynnig gwneud gwaith brys ar eich eiddo. Mae’r gwaith wedyn yn cael ei wneud i safon isel neu dydyn nhw ddim yn dod yn ôl i wneud y gwaith o gwbl.
Sut mae ei adnabod
Dysgwch sut mae adnabod twyll stepen drws a gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod rhywun yn ceisio eich targedu gartref.
Cyngor campus i leihau’r perygl o dwyll stepen drws
Gofynnwch am sticer ‘Dim Galwadau Diwahoddiad’ (‘No Cold Calling’) gan eich swyddfa Safonau Masnach leol neu Trading Standards Scotland. Felly, os bydd rhywun yn galw’n annisgwyl yn cynnig gwasanaeth neu’n gofyn am arian, byddwch yn eithaf siŵr nad ydyn nhw’n fusnes dilys.
Twyll drwy’r post
Beth yw hyn?
Fel arfer, mae twyll drwy’r post yn digwydd ar ffurf llythyr sydd wedi’i ddylunio i gael arian drwy dwyll. Bydd yn dueddol o gynnig rhywbeth sy’n swnio’n ddeniadol, ond nad yw’n bodoli go iawn. Mae magl bob amser – efallai bydd yn rhaid i chi dalu ffi ymlaen llaw, darparu rhywfaint o wybodaeth bersonol, neu ffonio rhif ffôn premiwm cyn cael yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Sut mae ei adnabod
Dysgwch sut mae adnabod twyll drwy’r post a gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod rhywun yn ceisio eich targedu drwy’r post.
Cyngor campus i leihau’r perygl o dwyll drwy’r post
Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Post. Mae hwn yn wasanaeth sy’n eich galluogi i optio allan o gael post uniongyrchol dieisiau, hyd yn oed os yw wedi’i gyfeirio atoch chi. (Byddwch yn dal yn cael post gan gwmnïau os ydych chi’n gwsmer neu eich bod ar eu rhestr bostio.) Drwy wneud hyn, gallwch fod yn amheus o unrhyw farchnata annisgwyl rydych chi’n ei chael drwy’r post.
Twyll dros y ffôn
Beth yw hyn?
Mae twyll dros y ffôn yn golygu troseddwyr yn eich ffonio ar eich ffôn tŷ neu eich ffôn symudol, gan esgus bod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo a’ch perswadio i ddarparu gwybodaeth gyfrinachol, i wneud taliad neu i roi mynediad at eich cyfrifiadur neu ffôn iddynt.
Sut mae ei adnabod
Dysgwch sut mae adnabod twyll dros y ffôn a gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod rhywun yn ceisio eich targedu dros y ffôn.
Cyngor campus i leihau’r perygl o dwyll dros y ffôn
Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i optio allan o alwadau gwerthu a marchnata i rifau llinell dir a symudol. Drwy wneud hyn, gallwch fod yn amheus o unrhyw alwadau marchnata. Ni fydd y Gwasanaeth yn atal twyllwyr sy’n esgus bod yn rhywun rydych chi’n ei adnabod na sefydliadau y mae gennych gysylltiad â nhw yn barod.
Ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll?
Dysgwch sut mae rhoi gwybod am y peth a sut mae adfer unrhyw golledion.
Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun
Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.