Does dim angen sgam ar-lein soffistigedig i ddwyn gwybodaeth bersonol bob amser.
Weithiau bydd troseddwr yn defnyddio techneg fwy sylfaenol, sef eich gwylio’n rhoi gwybodaeth ar fysellfwrdd, cyfrifiadur neu mewn peiriant codi arian. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘shoulder surfing’ weithiau. Mae modd ei wneud gan berson neu gan ddefnyddio camera i ffilmio’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Mae peiriannau codi arian yn arbennig o beryglus o ran twyll. Gall troseddwyr osod camera cudd ar y peiriant i weld eich PIN. Byddant wedyn yn ceisio dwyn eich cerdyn er mwyn cael mynediad at eich cyfrif banc – naill ai drwy dynnu eich sylw neu ddefnyddio dyfais sy’n gallu trapio eich cerdyn. Pan fyddwch yn gadael y peiriant i roi gwybod eich bod wedi colli eich cerdyn, bydd y twyllwr yn dychwelyd i nôl y cerdyn.
Tair ffordd o’ch diogelu chi a’ch arian
1. Cadw cyfrineiriau’n gudd
- cymerwch ofal arbennig i guddio eich PIN, cyfrinair neu godau cyfrin
- defnyddiwch y nodwedd ‘cuddio’r cyfrinair’ ar eich ffôn neu ddyfais tabled
- peidiwch ag ysgrifennu neu ddatgelu eich cyfrinair mewn man lle gallai pobl eraill ei weld
- ystyriwch ddefnyddio sgrin preifatrwydd – maen nhw wedi’u dylunio i leihau’r ongl gwelediad ar eich sgrin, gan ei gwneud hi’n anodd i bobl weld y cynnwys oni bai eu bod yn eistedd yn syth o’i flaen
2. Bod yn wyliadwrus wrth beiriannau codi arian
I gadw eich hun yn ddiogel:
- cuddiwch eich PIN rhag camerâu neu lygaid busneslyd. Sefwch yn agos i’r peiriant a defnyddio eich waled neu eich llaw arall i orchuddio’r bysellbad
- peidiwch â gadael i bobl dynnu eich sylw pan fyddwch yn rhoi eich PIN neu’n tynnu arian
Os oes unrhyw arwydd o ymyrraeth neu ddifrod ar y peiriant, peidiwch â’i ddefnyddio a rhowch wybod am eich pryderon i’r banc dan sylw neu i’r darparwr gwasanaeth.
Os bydd y peiriant yn llyncu eich cerdyn, rhowch wybod am y peth ar unwaith i gyhoeddwr eich cerdyn, gan aros yn agos i’r peiriant.
3. Diogelu eich cardiau banc
Peidiwch â gadael i gardiau digyswllt fynd o’ch golwg am eiliad. Gallai twyllwr gopïo manylion y cyfrif a’r cod CVV, neu ddefnyddio dyfais sgimio i gopïo data o stribed magnetig eich cerdyn.
Byddwch yn wyliadwrus o WiFi cyhoeddus
Pan fyddwch chi allan o’r tŷ, mae’n fwy diogel defnyddio rhwydwaith 4G neu 5G eich ffôn symudol, sydd â mesurau diogelwch parod, yn hytrach nag WiFi cyhoeddus. Gallwch rannu eich cysylltiad ar-lein â’ch gliniaduron a’ch dyfeisiau tabled drwy eu ‘rheffynnu’ (‘tethering’) â’ch ffôn symudol.
Os na allwch ddefnyddio data symudol, mae’n dal yn bosib diogelu eich hun ar WiFi cyhoeddus:
- gwnewch yn siŵr bod enw’r WiFi yn cyd-fynd â’r hyn roeddech chi’n ei ddisgwyl – a yw’n cael ei hysbysebu gan y lleoliad, neu a yw wedi ymddangos ar eich ffôn yn annisgwyl?
- cadwch lygad am https ar ddechrau cyfeiriad gwe, neu’r symbol clo – er nad yw hyn yn golygu bod modd ymddiried yn y wefan o reidrwydd, mae’n golygu bod y data wedi’i amgryptio ac nad oes modd i unrhyw un sy’n rheoli’r WiFi ei ddarllen
Os nad oes gennych chi ddewis o gwbl, peidiwch â gwneud unrhyw beth sensitif iawn (fel bancio) ar WiFi cyhoeddus
Ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll?
Dysgwch sut mae rhoi gwybod am y peth a sut mae adfer unrhyw golledion.
Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun
Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.