Mae nifer o arwyddion bod eich cyfrif e-bost, eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu eich cyfrif banc wedi cael eu hacio o bosib. Maen nhw’n cynnwys peidio â gallu mewngofnodi i’ch cyfrif, newidiadau i’ch gosodiadau diogelwch, negeseuon nad ydych chi’n eu hadnabod wedi’u hanfon o’ch cyfrif, ymgeisiau i fewngofnodi o leoliadau anarferol, a thaliadau heb eu hawdurdodi o’ch cyfrifon ar-lein.
Mae cael eich hacio yn gallu achosi cryn straen ond mae nifer o gamau gallwch eu cymryd i leihau’r difrod a chael rheolaeth dros eich cyfrifon eto. Bydd yr union gamau yn dibynnu ar y dyfeisiau, y systemau gweithredu a’r feddalwedd rydych chi’n eu defnyddio.
1. Cysylltu â darparwr y cyfrif
Ar gyfer pob cyfrif sydd wedi cael ei hacio, ewch i wefan darparwr y cyfrif a chwilio am y tudalennau cymorth. Bydd y rhain yn esbonio’r broses adfer cyfrif.
2. Gwirio eich cyfrif e-bost
Mae gosod ‘rheol anfon ymlaen’ yn dacteg sy’n cael ei defnyddio’n gyffredin gan seiberdroseddwyr. Mae hyn yn golygu y bydd copi o bob e-bost sy’n cael ei anfon i’ch cyfrif yn cael ei anfon atynt yn awtomatig, sy’n eu galluogi i ailosod eich cyfrineiriau. Gallwch wirio ac analluogi unrhyw reolau anfon ymlaen dieisiau yng ngosodiadau eich cyfrif e-bost.
3. Newid eich cyfrineiriau
Ar ôl cadarnhau nad oes unrhyw reolau anfon ymlaen dieisiau, bydd angen i chi newid cyfrinair pob cyfrif sydd wedi cael ei hacio.
Os ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer unrhyw gyfrif neu wefan arall, bydd angen i chi newid pob un, oherwydd bydd seiberdroseddwyr yn rhoi cynnig ar yr un cyfrinair ‘wedi’i hacio’ ar gyfer mwy nag un cyfrif.
Os yw eich cyfrineiriau’n cynnwys geiriau a rhifau a allai fod yn hawdd eu dyfalu, ystyriwch yr awgrymiadau gwych hyn ar gyfer gwneud cyfrineiriau’n fwy diogel.
4. Allgofnodi o’ch cyfrifon ar bob ap a dyfais
Ar ôl newid eich cyfrineiriau, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn allgofnodi o’ch cyfrifon ar bob ap a dyfais. Bydd gwneud hyn yn golygu y bydd gofyn i chi ac unrhyw un arall sy’n ceisio defnyddio’r cyfrif roi’r cyfrinair newydd, ond nawr, dim ond chi fydd yn ei wybod.
I allgofnodi o’r rhan fwyaf o apiau a dyfeisiau, chwiliwch am y ddewislen Gosodiadau neu’r tudalennau Cyfrif neu Breifatrwydd ar y wefan neu’r ddyfais.
5. Gosod dilysu dau gam
Mae llawer o gyfrifon a gwasanaethau ar-lein yn gadael i chi osod dilysu dau gam (2SV), sy’n golygu na fydd troseddwr yn gallu cael mynediad at eich cyfrifon hyd yn oed os yw’n gwybod eich cyfrinair. Fel arfer, mae dilysu dau gam (yn Saesneg, ‘two-step verification’, ‘two-factor authentication’ neu ‘2FA’) yn gweithio drwy anfon PIN neu god atoch, ac mae’n rhaid i chi wedyn ddarparu’r PIN neu’r cod i brofi mai chi sydd yno go iawn. Mae’n syniad da gosod dilysu dau gam ar gyfer cyfrifon pwysig fel e-bost a bancio, hyd yn oed os oes gennych gyfrinair cryf ar eu cyfer. Bydd yn cymryd dau funud a byddwch yn fwy diogel o lawer ar-lein.
6. Diweddaru eich dyfeisiau
Dylech ddiweddaru eich apiau a meddalwedd eich ffôn cyn gynted ag y maen nhw ar gael. Gosod y diweddariadau hyn yw un o’r ffyrdd pwysicaf (a chyflymaf) o atal eich cyfrif rhag cael ei hacio. Dylech alluogi diweddariadau awtomatig yng ngosodiadau eich dyfais hefyd, os oes modd, yn lle eich bod chi’n gorfod cofio diweddaru.
7. Rhoi gwybod i’ch cysylltiadau
Cysylltwch â chysylltiadau, ffrindiau a dilynwyr eich cyfrif. Rhowch wybod iddynt eich bod wedi cael eich hacio ac awgrymu eu bod yn trin unrhyw negeseuon diweddar o’ch cyfrif yn amheus. Bydd hyn yn eu helpu i osgoi cael eu hacio eu hunain.
8. Cadw llygad ar eich cyfriflenni banc
Hyd yn oed os mai dim ond un o’ch cyfrifon sy’n cael ei hacio, er enghraifft eich cyfrif e-bost, cofiwch y gallai hyn arwain at beryglon eraill. Cadwch lygad am drafodion anarferol ar eich cyfriflenni banc ac am bryniannau nad ydych chi wedi’u hawdurdodi mewn cyfrifon siopa ar-lein. Os ydych chi’n meddwl bod unrhyw gyfrifon eraill wedi cael eu hacio, dilynwch y camau uchod ar gyfer pob un. Os ydych chi’n gweld bod taliadau twyllodrus wedi cael eu gwneud, dysgwch beth i’w wneud os ydych chi wedi colli arian.
Diogelu eich hun rhag twyll pellach
Os ydych chi wedi dilyn y camau uchod, dylech nawr allu defnyddio eich cyfrifon fel arfer. Dylech hefyd gymryd camau i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll yn y dyfodol.
Sut arall gallwn ni helpu?
Beth i’w wneud os ydych chi wedi colli arian
Dysgwch a fyddwch yn gallu adfer unrhyw arian rydych chi wedi’i golli i dwyll.
Cymorth ar ôl twyll
Dysgwch sut mae cael cymorth i ddelio ag effaith ymarferol ac emosiynol twyll.