Mae troseddwyr yn gwybod yn union ba fotymau i’w pwyso i gael pethau. Does dim ots ydyn nhw’n troi fyny ar trothwy eich drws, yn eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol neu yn y gemau a chwaraewch ar-lein. Dyma rai o’u tactegau seicolegol (a elwir weithiau’n ‘deilwra cymdeithasol’ i’ch cael i ymateb yn sydyn heb gael amser i aros a meddwl.
Bydd bod yn ymwybodol ohonynt yn eich helpu i fod yn wyliadwrus o dwyll.
Llais awdurdod neu ‘ddibynadwy’
Ydy’r neges yn honni bod gan rywun swyddogol? Eich banc, meddyg, cyflenwr ynni neu adran lywodraeth, er enghraifft. Gall troseddwyr honni bod yn bobl bwysig neu’n sefydliad adnabyddus ac yn aml yn defnyddio eu logo neu frand gan wybod y byddwch yn fwy tebygol o gymryd sylw o enw cyfarwydd.
Brys ffug
Ydyn nhw’n dweud wrthych fod angen ymateb ar frys? Os oes bygythiad hefyd o gosbi neu ddirwy ariannol, neu ganlyniadau negyddol eraill, dylech fod yn amheus. Mae’r un peth yn wir os ydyn nhw’n addo gwobr neu fudd sydd ond ar gael am gyfnod byr. PEIDIWCH â thrystio neb sy’n ceisio eich rhuthro i wneud penderfyniad.
Emosiwn
Ydyn nhw’n defnyddio iaith sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, gobeithiol neu chwilfrydig? Efallai’n tynnu ar eich calon neu’n apelio at eich caredigrwydd. Yn aml iawn mae troseddwyr yn defnyddio emosiwn i wneud i chi ddilyn eich calon nid eich pen.
Prinder
Ydych chi’n cael cynnig rhywbeth sy’n brin neu ddim ar gael yn eang? Tocynnau cyngerdd? Gwyliau sy’n fargen? Mae troseddwyr yn aml yn defnyddio’r dacteg ofn colli allan ar gyfle neu fargen dda i wneud i chi ymateb yn sydyn.
Pethau sy’n digwydd
Ydy’r neges yn swnio’n amserol? Mae troseddwyr yn aml yn ecsbloetio digwyddiadau a straeon newyddion cyfredol neu adegau o’r flwyddyn (fel y dyddiad cau i adrodd treth) i wneud i’w cyswllt edrych yn berthnasol a didwyll.
Creu perthynas
Ydy rhywun yn dangos diddordeb penodol ynoch chi, eich teulu neu amgylchiadau? Efallai eu bod yn gofyn twr o gwestiynau neu’n cyfeirio at agweddau ar eich bywyd drwy fod wedi edrych ar eich proffiliau ar-lein. Mae twyllwyr yn aml yn ceisio ennill eich ffydd drwy greu cytgord a dod o hyd i ddiddordebau cyffredin cyn gofyn am arian neu ddata personol, cyn hyd yn oed eich cyfarfod wyneb yn wyneb.
Mwy o arwyddion rhybuddio i chwilio amdanynt
Yn y pen draw mae twyllwyr eisiau dwyn yr arian a weithioch mor galed i’w ennill, a’u dulliau felly’n ceisio eich cael i drosglwyddo eich arian, gwybodaeth ariannol neu fanylion diogelwch. Os derbyniwch BYTH un o’r ceisiadau hyn, gallai fod yn arwydd o rybudd. Cymerwch amser i aros, meddwl a gwirio ydy hyn yn wir.
Byddwch yn wyliadwrus os ydy rhywun:
- yn gofyn i chi rannu pascôd un-tro
- yn gofyn am eich PIN neu gyfrinair llawn
- yn gofyn am dâl cyn anfon gwobr neu ddosbarthiad ‘coll’
- yn gofyn i chi drosglwyddo arian neu grypto-arian yn syth i’r person
- yn gofyn i chi symud i ffwrdd o wefan talu swyddogol i dalu’r person
- yn gofyn am arian cyn i chi gyfarfod wyneb yn wyneb
- yn gofyn i chi glicio ar ddolenni dieithr
Bod yn wyliadwrus o dwyll
Mae twyll yn dod ym mhob ffurf a llun a’r rhan fwyaf yn defnyddio un neu fwy o’r tactegau a ddisgrifir yma. Dysgwch sut i fod yn wyliadwrus o dwyll.