Sut i adnabod gwefan ffug

Mae twyllwyr yn aml yn creu gwefannau sy’n edrych yn rhai go iawn ond sy’n ffug. Gallai’r wefan gynnwys brandio sy’n edrych bron yn union fel brand y cwmni dibynadwy. Gallai’r twyllwr hyd yn oed fod wedi mynd i’r drafferth o greu nodweddion soffistigedig fel ‘sgwrs fyw’ i wneud iddo edrych yn ddiffuant.

Rhestr wirio gwefannau ffug: beth i chwilio amdano

Nod y gwefannau hyn yw eich cael i dalu am nwyddau sydd ddim yn bodoli neu heintio eich cyfrifiadur gyda feirws er mwyn dwyn cyfrineiriau neu wybodaeth bersonol arall. I wneud hynny rhaid ennill eich ymddiriedaeth felly mae’r twyllwyr yn gweithio’n galed i wneud i’r gwefannau edrych yn ddiffuant. Ond fel arfer mae arwyddion bod gwefan yn un ffug. Dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:

  • prisiau bargen am nwyddau drud neu elw gwych ar fuddsoddiad – yn enwedig os ydynt yn defnyddio iaith i’ch rhuthro
  • gofyn i chi dalu drwy drosglwyddiad banc yn lle cerdyn credyd, cerdyn debyd neu ddarparwr taliadau trydydd parti (e.e. PayPal)
  • enw parth (yr URL neu gyfeiriad y wefan) sydd ddim cweit yn edrych yn iawn – os edrychwch yn fanwl, gallai edrych yn debyg iawn i’r un go iawn neu gynnwys enw brand adnabyddus dibynadwy
  • dim diogelwch gwefan ar y dudalen dalu – os nad oes symbol ‘clo’ neu ‘https’ yn yr URL (bar cyfeiriad y wefan), ni fydd eich data’n cael ei anfon yn ddiogel
  • gwybodaeth brin am y cwmni ar y tudalennau ‘Amdanom ni’ neu ‘Cysylltu’
  • dim polisi dychwelyd, polisi preifatrwydd neu delerau ac amodau eraill
  • lluniau, gwaith graffeg neu drefn tudalennau o ansawdd gwael
  • gwallau sillafu a gramadeg

Sut i wirio bod gwefan yn un ddiogel

Chwiliwch am y symbol ‘clo’ a / neu https ar ddechrau cyfeiriad y wefan. Nid yw’r un o’r ddau’n gwarantu gwefan gyfreithlon na dibynadwy ond mae’n golygu bod eich cysylltiad â’r wefan yn ddiogel felly bydd unrhyw wybodaeth a roddwch wedi’i hamgryptio.

Os nad ydy’r clo neu https yno, neu os ydy’r porwr yn dweud ‘not secure’, gadewch y wefan.

Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll

Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!

  • torrwch y cysylltiad – peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen na thalu dim byd
  • gwiriwch i weld ydy’r wefan yn ddiffuant drwy gymharu’r enw parth (cyfeiriad y wefan) â’r un y gwyddoch sy’n ddibynadwy
  • darllenwch adolygiadau o nifer o wefannau adolygu ar-lein, er enghraifft Trustpilot, Feefo neu Sitejabber
  • rhowch wybod o i’r Ganolfan Seiber-Ddiogelwch Genedlaethol (NCSC)

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r wefan yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi clicio ar ddolen, anfon gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo gan wefan ffug, dysgwch sut apham i roi gwybod amdano.