Sut i adnabod hysbyseb ar-lein ffug

Gall hysbysebion ffug ymddangos ar wefannau ocsiwn, marchnadoedd ar-lein, peiriants chwilio neu yn eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw’n aml yn edrych yn ddidwyll gan geisio eich ‘bachu’ gyda chymeradwyaeth ffug gan selebs, disgowntiau neu swyddi neu fuddsoddiadau sy’n temtio. Ond y nod yn aml yw dwyn arian neu werthu nwydd ffug neu sydd ddim yn bodoli i chi.

Rhestr wirio hysbysebion ffug: beth i chwilio amdano

Gall hysbysebion ffug, wedi eu plannu’n ofalus yng nghanol rhai iawn, edrych yn gredadwy iawn. Ond fel arfer mae cliwiau nad ydy hysbyseb yn ddidwyll felly dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:

  • prisiau bargen am nwyddau drud neu elw gwych ar fuddsoddiad – yn enwedig os ydynt yn defnyddio iaith i’ch rhuthro (‘dim ond 24 awr!’ neu ‘dim ond ychydig ar ôl!’)
  • iaith a ddyfeisiwyd i’ch cynhyrfu – er enghraifft, rhybudd bod eich dyfais wedi’i heintio mewn hysbyseb ar gyfer rhaglen gwrth-feirws
  • honni y gallwch gael cynnyrch neu wasanaeth (fel cerdyn iechyd neu drwydded yrru) yn gynt neu’n haws na mynd drwy’r sianeli swyddogol
  • logo sy’n edrych yn gyfarwydd ond mae ddim cweit yn iawn – er enghraifft lliwiau’n edrych yn rhyfedd neu braidd yn aneglur
  • cael eich annog gan yr hysbysebwr i symud i ffwrdd o’r wefan swyddogol i gwblhau’r pryniant
  • os cliciwch ar ddolen, mae’n mynd â chi i wefan sydd ddim yn teimlo’n iawn (mae cyfeiriad y wefan yn wahanol neu’r brandio’n edrych yn wahanol)

Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll

Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!

  • torrwch y cysylltiad – peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen
  • arhoswch ar y wefan swyddogol a dim ond defnyddio dulliau talu cymeradwy’r wefan
  • gwnewch ymchwil i’r cwmni neu werthwr drwy edrych ar adolygiadau ar wefannau adolygu dibynadwy
  • rhoi gwybod i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
  • gallech hefyd rhoi gwybod ar y llwyfan lle gwelsoch yr hysbyseb

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r hysbyseb yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi clicio ar ddolen, anfon gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo gan hysbyseb ar-lein ffug, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdano.