Sut i adnabod tecst ffug

Nod neges dwyllodrus fel arfer – p’un ai wedi’i hanfon drwy SMS, WhatsApp neu wasanaeth negeseua arall – yw eich cael i glicio ar ddolen. Bydd y ddolen yn mynd â chi trwodd i wefan ffug sy’n gallu dwyn eich data a’ch arian neu heintio eich dyfais gyda feirws.

Rhestr wirio tecstio gwe-rwydo: beth i chwilio amdano

Mae tecst ffug yn aml yn fyr a syml ond mae twyllwyr yn defnyddio tactegau cyfrwys i’w gwneud i edrych yn ddidwyll. Maen nhw hyd yn oed yn gallu ‘sbŵffio’ y rhif ffôn yr anfonir y neges ohono fel bo’n ymddangos yn yr un edefyn neges â chyswllt diffuant fel eich banc.

Ond mae nifer o arwyddion y gallai’r neges fod yn ffug felly dyma sut i adnabod neges amheus.

Byddwch yn wyliadwrus os gwelwch:

  • gwobr neu gynnig anhygoel gan rif ffôn neu gwmni sy’n ddieithr i chi
  • neges frys am ddiogelwch, er enghraifft bod manylion eich cyfrif banc dan fygythiad
  • neges am gynnyrch neu wasanaeth nad ydych wedi’i brynu neu ofyn amdano
  • cwmni dosbarthu’n mynnu eich bod yn talu ffi cyn dosbarthu parsel
  • aelod o’r teulu’n apelio i ofyn i chi anfon arian atynt
  • anogaeth i glicio ar ddolen ddieithr – os nad ydych yn siŵr, ewch i wefan y cwmni’n syth yn lle clicio trwodd
  • gofyn i chi rannu data personol
  • iaith a ddyfeisiwyd I greu teimlad o frys neu banig
  • negeseuon a anfonir y tu allan i oriau busnes arferol, yn enwedig yn hwyr iawn y nos neu’n gynnar iawn y bore

Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll

Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!

  • torrwch y cysylltiad – peidiwch ag ymateb, clicio ar unrhyw ddolen na thalu dim byd
  • gwiriwch ydy o’n ddiffuant: cysylltwch â’r person neu gwmni’n uniongyrchol ar rif ffôn y gwyddoch i fod yn gywir
  • anfonwch y neges ymlaen am ddim at 7726

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r neges yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi ymateb, clicio ar ddolen, anfon gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo gan decst ffug, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdano.