Sut i adnabod twyll post

Twyll post, post sgamio, twyll marchnad dorfol. Mae’r rhain i gyd yn dermau am dwyll sy’n dod drwy’r post.

Maen nhw’n aml yn addo gwobrau mawr, ennill y loteri a chynlluniau i fynd yn gyfoethog dros nos, ond dyma’r trap: bydd angen i chi dalu ffi, ffonio rhif ffôn drud neu drosglwyddo gwybodaeth bersonol fel eich manylion banc neu ddyddiad geni cyn i chi gael dim byd. Ar ôl gwneud, welwch chi byth mo’r wobr.

Neu gallai twyllwr fod yn hysbysebu nwyddau neu wasanaethau am ddisgownt mawr neu anrheg am ddim – yn aml am gyfnod byr. Os prynwch rywbeth gallai’r nwyddau fod o ansawdd gwael neu beidio â chyrraedd o gwbl.

Rhestr wirio twyll ffôn: beth i chwilio amdano

Mae twyll post yn dibynnu ar hudo pobl at y cynnig fel nad ydych yn aros i feddwl ydy o’n fusnes cyfreithlon neu beidio. Dyma rai arwyddion a ddylai eich gwneud yn amheus.

  • llythyr yn dweud eich bod wedi ennill loteri neu gystadleuaeth na wnaethoch drïo amdani
  • gofyn i chi dalu ffi ymlaen llaw (efallai drwy ddweud mai ‘ffi weinyddol’ ydio neu dâl dosbarthu) cyn i chi dderbyn y wobr, y nwydd neu’r gwasanaeth
  • cynigion ‘na allwch eu gwrthod’ – ond yn enwedig yn defnyddio iaith sy’n ceisio eich rhuthro neu greu panig
  • brand anghyfarwydd – ydych chi’n adnabod y cwmni?
  • peidio â defnyddio eich enw – ydyn nhw’n gwybod pwy ydych o gwbl?
  • sillafu a gramadeg gwael
  • logo, dyluniad a lluniau o ansawdd gwael

Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll

Os gwelsoch rywbeth sy’n codi amheuon, ‘STOP’!

  • peidiwch ag ymateb i’r llythyr na ffonio unrhyw rifau ffôn sydd wedi eu rhestru ar y llythyr
  • gwnewch ychydig o ymchwil i’r cwmni sy’n ysgrifennu atoch – chwiliwch am adolygiadau ar wefannau dibynadwy neu gofynnwch i deulu a ffrindiau
  • rhowch wybod i’r Post Brenhinol

Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb yn barod

Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi rhannu gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.

Rhoi gwybod am dwyll

Os cawsoch eich twyllo drwy’r post, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdano.