E-byst ffug yw e-byst gwe-rwydo a ddyfeisiwyd i wneud i chi glirio ar ddolen amheus, trosglwyddo arian neu rannu gwybodaeth bersonol.
Gallai’r e-bost gynnwys brandio i wneud iddo edrych fel un gan fusnes neu sefydliad yr ydych yn gwneud busnes gyda nhw’n barod – eich banc, meddyg, adeiladwr ayyb neu Gyllid a Thollau EF (HMRC). Neu gallai edrych fel pe bai wedi dod gan fusnes y byddai gennych ddiddordeb mewn prynu ganddo – cwmni gwyliau neu ffasiwn.
Rhestr wirio e-byst gwe-rwydo: beth i chwilio amdano
Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) gynyddu, mae e-byst ffug yn dod yn glyfrach o hyd. Ond gall fod rhai arwyddion bod yr e-bost yn un ffug, felly cadwch lygad allan am:
- cynnig gwych am gyfnod byr yn unig neu anogaeth gref i chi glicio fan hyn / rŵan – yn pwyso arnoch i ymateb yn sydyn
- e-bost sydd ddim yn defnyddio eich enw – dydyn nhw ddim yn gwybod yn union pwy ydych efallai
- gwallau sillafu a gramadeg (er bod e-byst gwe-rwydo’n dod yn fwy soffistigedig nag oedden nhw’n arfer â bod)
- lluniau neu ddyluniad sy’n edrych yn gyfarwydd ond ddim cweit yn teimlo’n iawn
- cyfeiriad e-bost anghyffredin – gallai edrych yn debyg ond ydio’r un fath â chyfeiriad e-bost y cwmni swyddogol?
- anogaeth i glicio ar ddolen ddieithr – os nad ydych yn siŵr, ewch i wefan y cwmni’n syth yn lle clicio trwodd
- gofyn i chi rannu data personol
Beth i’w wneud os ydych yn amau twyll
Os gwelsoch rywbeth amheus, ‘STOP’!
- torrwch y cysylltiad – peidiwch ag ymateb, clicio ar unrhyw ddolen, ffonio’r un rhif ffôn na thalu dim byd
- gwiriwch ydy o’n ddiffuant: cysylltwch â’r sefydliad neu gwmni’n uniongyrchol yn defnyddio cyfeiriad e-bost neu rif ffôn y gwyddoch i fod yn gywir, e.e. ar eich bil trydan ayyb, drwy chwilio ar peiriant chwilio, ar gefn eich cerdyn neu drwy ffonio 159 ar gyfer banciau
- cyn dileu’r e-bost, anfonwch o ymlaen at report@phishing.gov.uk
Beth i’w wneud os ydych wedi ymateb i’r e-bost yn barod
Peidiwch â chynhyrfu! Mae beth i’w wneud nesaf yn dibynnu a ydych wedi ymateb, clicio ar ddolen, anfon gwybodaeth neu dalu arian. Edrychwch ar ein cyngor ar beth i’w wneud os cawsoch eich twyllo.
Rhoi gwybod am dwyll
Os cawsoch eich twyllo gan e-bost gwe-rwydo, dysgwch sut a pham i roi gwybod amdanynt.