Mae troseddwyr yn gwybod yn union ba fotymau i’w pwyso i gael pethau. Does dim ots ydyn nhw’n troi fyny ar trothwy eich drws, yn eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol neu yn y gemau a chwaraewch ar-lein. Dyma rai o’u tactegau seicolegol (a elwir weithiau’n ‘deilwra cymdeithasol’ i’ch cael i ymateb yn sydyn heb gael amser i aros a meddwl.
Bydd bod yn ymwybodol ohonynt yn eich helpu i fod yn wyliadwrus o dwyll.
Trawsgrifiad fideo
[00:00] Ar y sgrin: logo Llywodraeth y Deyrnas Unedig a logo STOPIWCH! TWYLL TYBED gyda’r geiriau ‘Allwch chi nabod tactegau twyllwyr?’
[00:02] Voiceover: Allwch chi nabod tactegau twyllwyr? Mae twyll yn dod yn fwy soffistigedig ac mae’n dod ym mhob math o ffyrdd.
[00:08] Ar y sgrin: Mae cerdyn banc gwyrdd, yn dangos blaen a chefn y cerdyn yn ymddangos, ac wedyn tri emoji ac yna pâr o docynnau ar gyfer gŵyl.
[00:12] Ar y sgrin: mae menyw ifanc â gwallt melyn hir, yn gwisgo top gwyrdd, yn gwirio rhywbeth ar ei ffôn symudol. Mae hi’n edrych fel petai wedi’i drysu.
[00:12] Voiceover: Ond os ydych chi’n nabod rhai o’r tactegau seicolegol sy’n cael eu defnyddio gan dwyllwyr, gall hynny eich helpu i achub y blaen ar sgamiau.
[00:19] Voiceover: Dyma rai o’r tactegau cyffredin i chwilio amdanyn nhw…
Ar y sgrin: Mae chwyddwydr yn ehangu’r un geiriau ar y sgrin.
[00:23] Ar y sgrin: mae rhestr o dactegau yn ymddangos:
TACTEG 1. LLAIS DIBYNADWY
TACTEG 2. BRYS FFUG
TACTEG 3. EMOSIWN
TACTEG 4. PRINDER
TACTEG 5. DIGWYDDIADAU CYFOES
TACTEG 6. ADEILADU PERTHYNAS
Mae’r ffocws yn symud i TACTEG 1 LLAIS DIBYNADWY ac mae’r cerdyn banc gwyrdd yn ymddangos.
[00:26] Voiceover: Tacteg 1. Llais dibynadwy
[00:30] Mae dyn â gwallt llwyd a barf yn gwisgo siwmper werdd a throwsus glas yn eistedd ar soffa oren, ac yn defnyddio’i dabled. Mae hysbysiad testun oddi wrth ‘acct@onlinebank’ yn ymddangos i’r dde o’i ben. Mae’n dweud: ‘Account Security: VERIFY NOW!’.
[00:34] Voiceover: Ydy’r neges yn honni mai rhywun swyddogol sydd wedi’i hanfon fel eich banc neu frand adnabyddus?
[00:40] Ar y sgrin: mae eicon oren o chwyddwydr yn ymddangos gyda thic.
[00:40] Mae troseddwyr yn aml yn esgus bod yn sefydliadau dibynadwy i’ch twyllo i wneud yr hyn maen nhw eisiau.
[00:47] Ar y sgrin: mae’r rhestr o dactegau’n ailymddangos, y tro hwn yn manylu ar ‘TACTEG 2 FFUG BRYS’. Mae stopwats yn ymddangos ar y sgrin.
[00:48] Voiceover: Tacteg 2. Brys ffug
[00:51] Ar y sgrin: Mae dyn â gwallt tywyll byr, yn gwisgo siaced werdd, yn eistedd wrth fwrdd bach ac yn defnyddio’i liniadur. Mae cwpan a soser oren a’i ffôn symudol wrth ymyl y gliniadur. Mae e’n edrych ychydig yn bryderus. Mae neges yn hysbysu ynglŷn â nwyddau yn ymddangos yn ymyl ei ben. Mae’n dweud: ‘FINAL WARNING: Delivery pending…’
[00:55] Voiceover Oes rhywun yn dweud wrthoch chi mai amser cyfyngedig yn unig sydd gennych i ymateb?
[00:59] Ar y sgrin: mae eicon oren stopwats yn ymddangos.
[00:59] Voiceover Mae twyllwyr yn defnyddio brys ffug i’ch cael chi i fynd ati’n gyflym heb gymryd amser i stopio a meddwl.
[01:05] Ar y sgrin: mae eicon oren triongl rhybuddio yn ymddangos.
[01:05] Voiceover Efallai y byddan nhw’n bygwth dirwyon neu ganlyniadau negyddol…
[01:08] Ar y sgrin: mae eicon oren papur arian gydag arwydd punt yn y canol yn ymddangos.
[01:08] Voiceover: … neu’n addo gwobr am gyfnod byr yn unig, er mwyn cael ymateb cyflym.
[01:13] Ar y sgrin: mae’r rhestr o dactegau’n ailymddangos, y tro hwn yn manylu ar ‘TACTEG 3 EMOSIWN’. Mae tri emoji yn ymddangos ar y sgrin.
[01:13] Voiceover: Tacteg 3. Emosiwn
[01:17] Ar y sgrin: mae menyw canol oed â gwallt tywyll byr, yn gwisgo cardigan glas a throwsus glas tywyll, yn eistedd ar soffa oren a’i ffôn symudol yn ei llaw. Mae hi’n edrych ychydig yn ddryslyd ac yn bryderus. Mae hysbysiad neges oddi wrth ‘Unknown Number’ yn ymddangos wrth ymyl ei phen. Mae’n dweud: ‘Mam, dwi wedi cael damwain! Anfona arian…’. Mae hi’n ysgwyd ei phen.
[01:21] Voiceover: Ydy’r neges yn ysgogi ymateb emosiynol? Fel panig, ofn, gobaith neu chwilfrydedd?
[01:28] Ar y sgrin: mae cyfres o emojis gwahanol yn ymddangos.
[01:28] Voiceover: Mae troseddwyr yn gwybod pa fotymau emosiynol i’w gwthio i ddal eich sylw. Efallai y byddan nhw’n defnyddio iaith fygythiol, yn apelio at eich calon neu’n ceisio gwneud ichi eisiau gwybod mwy.
[01:39] Ar y sgrin: mae’r rhestr o dactegau’n ailymddangos, y tro hwn yn manylu ar ‘TACTEG 4 PRINDER. Mae dau docyn ar gyfer gŵyl yn ymddangos ar y sgrin.
[01:39] Voiceover: Tacteg 4. Prinder
[01:42] Ar y sgrin: Mae menyw ifanc â gwallt melyn hir yn gwisgo top gwyrdd yn gwirio rhywbeth ar ei ffôn symudol. Mae dwy neges hysbysiad yn ymddangos yn ymyl ei phen. Mae un oddi wrth ‘TRAVELDEALS’ ac mae’n dweud: ‘Last few half-price holiday deals!’. Mae’r llall oddi wrth ‘GIGTIX’ ac mae’n dweud: 2 x SOLD OUT tickets…’. Mae hi’n edrych wedi’i drysu.
[01:49] Voiceover: Ydych chi’n cael cynnig rhywbeth sy’n brin iawn? Fel tocynnau i gig sydd wedi gwerthu allan neu fargen anhygoel ar wyliau?
[01:56] Ar y sgrin: Mae eicon oren o dag pris gydag arwydd punt arno yn ymddangos.
[01:56] Voiceover: Yn aml, bydd troseddwyr yn defnyddio ofn colli allan ar fargen neu gyfle da i wneud ichi ymateb yn gyflym.
[02:02] Ar y sgrin: mae’r rhestr o dactegau’n ailymddangos, y tro hwn yn manylu ar ‘TACTEG 5 DIGWYDDIADAU CYFOES’. Mae calendr yn ymddangos ar y sgrin.
[02:02] Voiceover: Tacteg 5. Digwyddiadau cyfoes
[02:06] Ar y sgrin: Mae dyn â gwallt tywyll byr, yn gwisgo siaced werdd, yn eistedd wrth fwrdd bach ac yn defnyddio’i liniadur. Mae cwpan a soser oren a’i ffôn symudol wrth ymyl y gliniadur. Mae’n edrych ychydig yn bryderus. Mae neges sy’n edrych fel petai wedi’i hanfon gan CThEF yn ymddangos i’r chwith o’i ben. Mae’n dweud: ‘HMRC: You are eligible for a £567.24 tax refund’. Mae neges arall yn ymddangos oddi wrth ‘Unknown Number’ sy’n dweud: Earthquake appeal: DONATE NOW’. Mae’r dyn wedi drysu.
[02:14] Voiceover: Mae troseddwyr yn manteisio ar newyddion cyfredol neu amseroedd penodol o’r flwyddyn i wneud eu sgam ymddangos yn berthnasol i chi.
[02:20] Ar y sgrin: mae eicon oren o darian gyda thic dilysu yn y canol yn ymddangos.
[02:20] Voiceover: Mae’n gwneud i’w neges ymddangos yn ddilys ac yn atyniadol.
[02:24] Ar y sgrin: mae’r rhestr o dactegau’n ailymddangos, y tro hwn yn manylu ar ‘TACTEG 6 ADEILADU PERTHYNAS. Mae balŵn heliwm coch ar siâp calon yn ymddangos ar y sgrin.
[02:24] Voiceover: Tacteg 6. Adeiladu perthynas
[02:29] Ar y sgrin: Mae menyw canol oed gyda gwallt tywyll at ei hysgwyddau, yn gwisgo blows las tywyll, yn eistedd wrth ddesg, ac yn defnyddio’i gliniadur. Mae llyfr nodiadau a beiro oren wrth ei hochr. Mae tair neges gan Michael yn ymddangos yn ymyl ei phen. Mae’r un gyntaf, gafodd ei hanfon ar 3 Mehefin, yn dweud “Ti mor brydferth” gydag emoji llygaid-calon. Cafodd yr ail neges ei hanfon ddydd Gwener ac mae’n dweud “Dwi wrth fy modd yn dod i nabod ti, methu aros i fod gyda ti” gydag emoji llygaid serennog. Mae’r neges olaf yn dweud: “Dwi angen £500 ar gyfer yr awyren i ddod i weld ti cariad x” gydag emoji calon. Mae hi’n edrych ychydig yn syn ac yn estyn am ei ffôn symudol.
[02:33] Voiceover: Oes rhywun anghyfarwydd yn dangos diddordeb sydyn ynoch chi?
[02:36] Ar y sgrin: mae eicon calon oren gyda saeth yn mynd drwyddi yn ymddangos.
[02:36] Voiceover: Mae twyllwyr yn aml yn ceisio ennill eich ymddiriedaeth trwy adeiladu perthynas…
[02:41] Ar y sgrin: Mae eicon oren o arian papur gydag arwydd punt yn y canol yn ymddangos.
[02:41] Voiceover: … ac yna gofyn am arian neu fanylion personol cyn ichi gyfarfod â nhw mewn bywyd go iawn.
[02:46] Ar y sgrin: mae dau docyn gŵyl yn ymddangos ar y sgrin, ac yna’r cerdyn banc gwyrdd a thri emoji.
[02:46] Voiceover: Pan fyddwch chi’n nabod rhai o’r tactegau seicolegol mae twyllwyr yn eu defnyddio…
[02:50] Ar y sgrin: Mae’r dyn â gwallt llwyd, sy’n gwisgo siwmper werdd a throwsus glas, yn ymddangos eto, yn eistedd ar soffa oren ac yn defnyddio’i dabled.
[02:50] Voiceover: … mae’n haws nabod twyll ac achub y blaen ar sgamiau.
[02:53] Voiceover: Cofiwch, os yw rhywbeth yn edrych yn amheus… Stopiwch! Meddyliwch twyll
[02:57] Ar y sgrin: mae’r logo Stopiwch! Meddyliwch twyll gyda’r llinell ‘Ymgyrch genedlaethol yn erbyn twyll’ yn ymddangos, ynghyd â logo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Adnabod y tactegau
Llais awdurdod neu ‘ddibynadwy’
Ydy’r neges yn honni bod gan rywun swyddogol? Eich banc, meddyg, cyflenwr ynni neu adran lywodraeth, er enghraifft. Gall troseddwyr honni bod yn bobl bwysig neu’n sefydliad adnabyddus ac yn aml yn defnyddio eu logo neu frand gan wybod y byddwch yn fwy tebygol o gymryd sylw o enw cyfarwydd.
Ffugiadau dwfn
Gall twyllwyr ddefnyddio AI i greu nwyddau ffug sy’n argyhoeddi’n ddwfn. Mae ffugiau dwfn yn cynnwys delweddau ffug, fideos a recordiadau sain wedi’u creu’n ddigidol neu wedi’u haddasu’n ddigidol. Efallai y bydd y cynnwys hwn yn dynwared llais ac ymddangosiad person go iawn, boed yn berson enwog, rhywun rydych chi’n ei adnabod neu hyd yn oed chi.
Brys ffug
Ydyn nhw’n dweud wrthych fod angen ymateb ar frys? Os oes bygythiad hefyd o gosbi neu ddirwy ariannol, neu ganlyniadau negyddol eraill, dylech fod yn amheus. Mae’r un peth yn wir os ydyn nhw’n addo gwobr neu fudd sydd ond ar gael am gyfnod byr. PEIDIWCH â thrystio neb sy’n ceisio eich rhuthro i wneud penderfyniad.
Emosiwn
Ydyn nhw’n defnyddio iaith sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, gobeithiol neu chwilfrydig? Efallai’n tynnu ar eich calon neu’n apelio at eich caredigrwydd. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn defnyddio AI i greu ffugiadau dwfn o’ch teulu a’ch ffrindiau. Yn aml iawn mae troseddwyr yn defnyddio emosiwn i wneud i chi ddilyn eich calon nid eich pen.
Prinder
Ydych chi’n cael cynnig rhywbeth sy’n brin neu ddim ar gael yn eang? Tocynnau cyngerdd? Gwyliau sy’n fargen? Mae troseddwyr yn aml yn defnyddio’r dacteg ofn colli allan ar gyfle neu fargen dda i wneud i chi ymateb yn sydyn.
Pethau sy’n digwydd
Ydy’r neges yn swnio’n amserol? Mae troseddwyr yn aml yn ecsbloetio digwyddiadau a straeon newyddion cyfredol neu adegau o’r flwyddyn (fel y dyddiad cau i adrodd treth) i wneud i’w cyswllt edrych yn berthnasol a didwyll.
Creu perthynas
Ydy rhywun yn dangos diddordeb penodol ynoch chi, eich teulu neu amgylchiadau? Efallai eu bod yn gofyn twr o gwestiynau neu’n cyfeirio at agweddau ar eich bywyd drwy fod wedi edrych ar eich proffiliau ar-lein. Mae twyllwyr yn aml yn ceisio ennill eich ffydd drwy greu cytgord a dod o hyd i ddiddordebau cyffredin cyn gofyn am arian neu ddata personol, cyn hyd yn oed eich cyfarfod wyneb yn wyneb.
Mwy o arwyddion rhybuddio i chwilio amdanynt
Yn y pen draw mae twyllwyr eisiau dwyn yr arian a weithioch mor galed i’w ennill, a’u dulliau felly’n ceisio eich cael i drosglwyddo eich arian, gwybodaeth ariannol neu fanylion diogelwch. Os derbyniwch BYTH un o’r ceisiadau hyn, gallai fod yn arwydd o rybudd. Cymerwch amser i aros, meddwl a gwirio ydy hyn yn wir.
Byddwch yn wyliadwrus os ydy rhywun:
- yn gofyn i chi rannu pascôd un-tro
- yn gofyn am eich PIN neu gyfrinair llawn
- yn gofyn am dâl cyn anfon gwobr neu ddosbarthiad ‘coll’
- yn gofyn i chi drosglwyddo arian neu grypto-arian yn syth i’r person
- yn gofyn i chi symud i ffwrdd o wefan talu swyddogol i dalu’r person
- yn gofyn am arian cyn i chi gyfarfod wyneb yn wyneb
- yn gofyn i chi glicio ar ddolenni dieithr
Bod yn wyliadwrus o dwyll
Mae twyll yn dod ym mhob ffurf a llun a’r rhan fwyaf yn defnyddio un neu fwy o’r tactegau a ddisgrifir yma. Dysgwch sut i fod yn wyliadwrus o dwyll.