Mae twyll yn dod ym mhob ffurf a llun. Mae sgamiau newydd yn ymddangos o hyd wrth i dwyllwyr ecsbloetio gwahanol ddulliau a sianeli cyfryngau i gael pobl i drosglwyddo eu harian, data ariannol neu wybodaeth bersonol. Gall unrhyw un gael ei dargedu ac unrhyw un ddioddef twyll.
Arhoswch ar y blaen gydag Action Fraud Alert
Cofrestrwch i ddysgu mwy am y gwaith twyll diweddaraf yn eich ardal.
Neu dilynwch Action Fraud ar eu sianeli cymdeithasol:
Mathau cyffredin o dwyll i fod yn wyliadwrus ohonynt
Dyma rai o’r mathau o dwyll sy’n gallu digwydd i ddangos ehangder y broblem dwyll. Po fwyaf gwyliadwrus o wahanol fathau o dwyll ydych chi, y mwyaf parod fyddwch chi i adnabod ymgais i’ch twyllo.
Twyll bancio
Mae twyll bancio’n digwydd pan fydd cardiau banc neu wybodaeth cyfrif banc yn cael ei ddwyn a’i ddefnyddio i wneud taliad ar gyfrif rhywun heb iddynt wybod. Efallai na fydd y dioddefwr yn sylweddoli hyn nes iddo weld trafodion dieithr ar eu datganiad banc.
Twyll talu ymlaen llaw
Mae maint aruthrol o dwyll wedi’i ddyfeisio i berswadio pobl i dalu ymlaen llaw am nwyddau neu wasanaethau sydd ddim yn bodoli. Gelwir hyn yn dwyll rhagdalu neu’n dwyll blaendalu. Gall fod sawl ffurf iddo gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i):
- twyll etifeddiaeth – rydych yn cael gwybod eich bod wedi etifeddu arian mawr ond mae angen talu ffi i ryddhau’r arian
- twyll benthyciad – gofynnir i chi dalu ffi i gael y benthyciad
- twyll loteri – rydych yn cael gwybod eich bod wedi ennill arian mawr mewn loteri neu gystadleuaeth ond angen talu ffi weinyddol i’w hawlio
- twyll adennill – ar ôl cael eich twyllo, mae rhywun yn cysylltu’n honni y gallent adennill eich colledion – am ffi
- twyll recriwtio – rydych yn ymateb i hysbyseb swydd ond mae’r ‘recriwtiwr’ yn gofyn i chi dalu ffi i wneud amrywiol wiriadau neu i’ch hyfforddi – am swydd sydd ddim yn bodoli
Twyll dêtio
Mae twyll dêtio neu ramant yn golygu twyll-ffalsio i gael pobl i anfon arian at droseddwyr sy’n mynd i drafferth fawr i ennill eu ymddiriedaeth a’u darbwyllo eu bod mewn perthynas ddiffuant.
Twyll siopa ar-lein
Mae twyll siopa ar-lein yn digwydd ar wefannau ocsiwn a marchnadoedd ar-lein. Drwy aros yn ddienw ar y we, mae twyllwyr yn perswadio pobl i dalu iddynt am nwyddau o ansawdd gwael neu sydd ddim yn bodoli, neu’n honni bod yn brynwr diffuant ond byth yn talu am y nwyddau.
ABC twyll
Gallwch ddarllen mwy am y mathau mwy cyffredin o dwyll ar wefan Action Fraud.