Mae llawer ohonom yn treulio oriau ar-lein bob wythnos. Mae’r rhyngrwyd yn gwneud bywyd yn haws ond mae hefyd yn baradwys i droseddwyr sydd am ddwyn ein harian a’n manylion personol.
Yn yr adran hon byddwn yn esbonio’r mesurau diogelu dylai pawb eu defnyddio i leihau’r perygl o dwyll ar-lein.
Ei gwneud hi’n anoddach eich targedu
Allwch chi ddim atal troseddwr rhag ceisio eich twyllo ar-lein, ond fe allwch ei gwneud hi’n anoddach eich targedu. Bydd cymryd y camau hyn i ddiogelu eich dyfeisiau a’ch data yn eich gwneud yn fwy diogel pan fyddwch ar-lein – yn bancio neu bori, yn siopa neu chwilio am gariad, yn chwarae gemau neu rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Gwneud eich cyfrineiriau’n fwy diogel
Sut mae creu cyfrineiriau cryf, diogel ac unigryw, a’u cadw’n ddiogel rhag twyllwyr.
Galluogi dilysu dau gam
Sut mae ychwanegu lefel arall o ddiogelwch at eich cyfrifon pwysicaf.
Gwneud yn siŵr bod gennych chi’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd ac apiau
Sut mae gosod diweddariadau diogelwch i amddiffyn yn erbyn ymosodiadau seiber.
Defnyddio meddalwedd gwrthfeirysau
Sut a pham y dylid defnyddio meddalwedd gwrthfeirysau ar gyfrifiaduron a gliniaduron.
Cadw’n ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol
Sut mae gwneud yn siŵr nad ydych chi’n rhannu mwy nag y dylech ar gyfryngau cymdeithasol.
Galluogi nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau personol
Gwiriwch pa nodweddion diogelwch y dylech eu galluogi.
Adnabod arwyddion twyll ar-lein
Mae llawer o dwyll ar-lein yn cynnwys e-byst, hysbysebion a gwefannau ffug sydd wedi’u dylunio i ddwyn manylion banc neu wybodaeth bersonol arall. Dysgwch sut mae adnabod arwyddion twyll pan fyddwch ar-lein a beth gallwch ei wneud i osgoi dioddef twyll.