Galluogi nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau personol

Mae’n hawdd colli dyfeisiau personol cludadwy fel ffonau symudol a dyfeisiau tabled. Os byddant yn mynd i’r dwylo anghywir ac nad ydynt yn ddigon diogel, gall troseddwyr eu datgloi’n gyflym a chael gafael ar gyfrifon, data a manylion personol.

Treuliwch funud yn gwneud yn siŵr eich bod wedi galluogi’r nodweddion diogelwch canlynol:

  • PIN, cyfrinair, ôl bys neu ID wyneb i ddefnyddio eich dyfais
  • cloi’n awtomatig ar ôl cyfnod o segurdod – sy’n diogelu eich ffôn neu ddyfais tabled drwy gloi’r sgrin ar ôl cyfnod penodol
  • ap tracio eich dyfais – sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i’ch ffôn neu ddyfais tabled os ydych chi’n ei golli neu fod rhywun yn ei dwyn

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.