Defnyddio meddalwedd gwrthfeirysau

Mae troseddwyr yn defnyddio feirysau a meddalwedd faleisus (maleiswedd) i ymosod. Mae maleiswedd yn heintio cyfrifiaduron, gliniaduron, dyfeisiau tabled a ffonau. Unwaith mae wedi’i gosod, gall ddwyn eich cyfrineiriau neu wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch twyllo.

Mae cynnyrch gwrthfeirysau yn gweithio drwy ganfod a thynnu maleiswedd o’ch cyfrifiadur neu liniadur.

Pa gynnyrch gwrthfeirysau dylech chi ei ddefnyddio?

Cynnyrch gwrthfeirysau parod

Mae meddalwedd gwrthfeirysau wedi’i chynnwys am ddim yn y systemau gweithredu sy’n rhedeg cyfrifiaduron Microsoft ac Apple yn aml. Gwnewch yn siŵr bod y feddalwedd hon ar waith a byddwch yn fwy diogel ar unwaith.

Cynnyrch gwrthfeirysau ar wahân

Gallwch hefyd brynu cynnyrch gwrthfeirysau ar wahân neu ddefnyddio fersiynau di-dâl. Mae’n werth nodi’r canlynol o ran y cynhyrchion hyn:

  • os ydynt yn cynnig treial di-dâl i ddechrau, bydd angen i chi dalu (neu gofrestru) i barhau i’w ddefnyddio ar ôl i’r cyfnod di-dâl ddod i ben
  • ni fydd cynnyrch gwrthfeirysau ar wahân bob amser yn gweithio ochr yn ochr â’r feddalwedd gwrthfeirysau parod, a gallai hyd yn oed ei hatal rhag gweithio’n gyfan gwbl
  • mae cynifer o gynhyrchion ar gael felly efallai y byddwch yn dymuno gwneud eich ymchwil eich hun i weld pa un sydd orau i chi

Sut mae defnyddio eich cynnyrch gwrthfeirysau

Pa bynnag gynnyrch gwrthfeirysau rydych chi’n ei ddewis:

  • pan fyddwch yn defnyddio eich cynnyrch gwrthfeirysau am y tro cyntaf, rhedwch sgan llawn i wneud yn siŵr nad oes unrhyw faleiswedd ar eich dyfais
  • dilynwch unrhyw gyngor sydd gan y cynnyrch gwrthfeirysau ar gyfer glanhau a diogelu eich dyfais
  • gwnewch yn siŵr bod y cynnyrch gwrthfeirysau wedi’i osod i sganio pob ffeil newydd rydych chi’n ei chadw i’ch dyfais yn awtomatig
  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi galluogi diweddaru awtomatig er mwyn i’ch cynnyrch gwrthfeirysau adnabod feirysau newydd pan fyddant yn dod i’r amlwg

Beth am gynnyrch gwrthfeirysau ar gyfer ffonau a dyfeisiau tabled?

Does dim angen cynnyrch gwrthfeirysau ar eich ffôn neu ddyfais tabled – ar yr amod eich bod dim ond yn gosod apiau a meddalwedd o siopau swyddogol fel Google Play a’r Apple App Store. Mae’r siopau hyn yn cynnal archwiliadau sy’n helpu i wneud yn siŵr nad oes maleiswedd ar apiau ac nad oes unrhyw un wedi ymyrryd â nhw. Dylech hefyd alluogi eich apiau (a’r ddyfais tabled/ffôn) eich hun i ddiweddaru’n awtomatig.

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.