Cadw’n ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol

Mae twyll yn gyffredin iawn ar gyfryngau cymdeithasol. Gan esgus bod yn ffrindiau neu fusnesau go iawn, mae’r twyllwyr yn postio cynnwys ffug, fel negeseuon uniongyrchol, hysbysebion, cwisiau neu ddolenni i wefannau amheus sydd wedi’u dylunio i’ch cael chi i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu roi arian.

Dyma rywfaint o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer diogelu eich hun ar gyfryngau cymdeithasol drwy gadw eich cyfrifon yn ddiogel a’i gwneud hi’n anoddach i dwyllwyr eich targedu.

Defnyddio cyfrinair cryf ac unigryw ar gyfer pob cyfrif cyfryngau cymdeithasol

Gwnewch hi’n anodd i dwyllwyr dorri mewn i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. I wella diogelwch eich cyfrinair, dewiswch un ‘cryf a hir’ gan ddefnyddio tri gair ar hap, a gwneud yn siŵr ei fod yn wahanol i’ch cyfrinair e-bost.

Defnyddio dilysu dau gam (2SV) ar gyfer eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Mae dilysu dau gam (a fydd yn cael ei alw’n ‘2-step verification’ neu ‘2-factor authentication’ ar eich dyfais efallai) yn ychwanegu lefel arall o ddiogelwch drwy ofyn am ragor o wybodaeth i brofi pwy ydych chi, er enghraifft cod cyfrin untro. Fel arfer mae modd galluogi dilysu dau gam drwy osodiadau diogelwch y cyfrif.

Gosodiadau preifatrwydd cyfryngau cymdeithasol

Meddyliwch pwy sy’n gallu cael mynediad at y cynnwys rydych chi’n ei bostio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod eich dewisiadau preifatrwydd er mwyn sicrhau mai chi sy’n dewis pwy sy’n gallu ei weld, er enghraifft eich ffrindiau.

Gwiriwch cyn derbyn ffrindiau a dilynwyr

Yn aml, mae twyllwyr yn defnyddio cyfrifon ffug neu gyfrifon wedi’u hacio i esgus bod yn rhywun mae’r dioddefwr yn ei adnabod. Pan fyddwch yn cael cais i fod yn ffrind neu i’ch dilyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod y person. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn am fanylion personol, byddwch yn wyliadwrus iawn.

Byddwch yn ofalus wrth rannu ar-lein

Meddyliwch am eich ‘ôl troed digidol’ – term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar-lein, gan gynnwys diweddariadau statws. Gwnewch eich gorau i beidio â rhannu gormod o fanylion personol y gallai twyllwr eu defnyddio i greu darlun ohonoch chi. Maen nhw’n gallu defnyddio ffeithiau fel eich penblwydd, lle rydych chi’n byw, perthnasoedd teuluol neu enwau anifeiliaid anwes i ddwyn eich manylion adnabod neu i wneud eu twyll yn fwy credadwy.

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.