Gwneud yn siŵr bod gennych chi’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd ac apiau

Mae’n siŵr eich bod wedi gweld negeseuon ar eich ffôn, eich dyfais tabled, eich cyfrifiadur neu eich gliniadur yn eich annog i ddiweddaru meddalwedd, systemau gweithredu ac apiau. Peidiwch â’u hanwybyddu!

Mae’r diweddariadau diogelwch hyn yn bwysig. Yn ogystal â gwelliannau a nodweddion newydd, maen nhw’n cynnwys diogelwch rhag feirysau drwy drwsio chwilod a gwendidau. Gosod diweddariadau yw un o’r ffyrdd hawsaf a chyflymaf o atal eich cyfrif rhag cael ei hacio.

Sut mae gosod a rhedeg diweddariadau meddalwedd

Gosod diweddariadau

  • Gosodwch ddiweddariadau i apiau a meddalwedd ar eich dyfeisiau cyn gynted ag y maen nhw ar gael
  • Yn aml, cewch eich annog i ddiweddaru eich meddalwedd, ond os hoffech ddiweddaru eich hun, ewch i osodiadau’r ddyfais a chwilio am ddiweddariadau. Bydd yr union leoliad a geiriad yn amrywio rhwng dyfeisiau. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, ewch i adran cymorth neu gefnogaeth gwefan swyddogol y gwneuthurwr

Diweddariadau awtomatig

  • Galluogwch ddiweddariadau awtomatig yng ngosodiadau eich dyfais, os yw’r opsiwn ar gael. Mae hynny’n golygu na fydd rhaid i chi gofio diweddaru eich hun

Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais yn gallu derbyn diweddariadau

  • Os ydych chi’n defnyddio ffôn neu gyfrifiadur hŷn a bod y gwneuthurwr wedi rhoi’r gorau i ddarparu diweddariadau ar ei gyfer, dylech gael dyfais newydd y mae modd ei diweddaru. Does dim rhaid cael y model diweddaraf neu ddrytaf – ond mae’n werth uwchraddio os yw hynny’n golygu eich bod yn gallu diweddaru eich meddalwedd a diogelu eich hun yn well rhag twyllwyr

Cofiwch

Byddwch chi angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd a pheth amser i adael i’r ddyfais ddiweddaru. Mae’n syniad da gwneud hyn gartref lle gallwch ddefnyddio eich Wi-Fi a phlygio eich dyfais i mewn i ffynhonnell bŵer. Mae llawer o bobl yn gosod diweddariadau meddalwedd a diogelwch dros nos.

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.