Gwneud eich cyfrineiriau’n fwy diogel

Meddyliwch am eich cyfrineiriau fel allweddi eich cartref. Os bydd y dwylo anghywir yn cael gafael arnynt, bydd troseddwyr yn gallu mynd i mewn i’ch cyfrifon a dwyn eich gwybodaeth.

I ddiogelu eich manylion banc a’ch gwybodaeth bersonol, mae’n hollbwysig bod y cyfrineiriau i’ch cyfrifon pwysicaf:

  • yn unigryw
  • yn anodd eu dyfalu
  • yn cael eu cadw’n gyfrinachol bob amser

Blaenoriaethu diogelwch eich cyfrif e-bost

Os bydd rhywun yn torri mewn i’ch cyfrif e-bost, gallant gael mynediad at eich cyfrifon ar-lein eraill gan ddefnyddio’r nodwedd ‘wedi anghofio’r cyfrinair’, neu gael gafael ar wybodaeth bersonol i’w defnyddio rywbryd eto mewn ymgais i’ch twyllo chi neu bobl rydych chi’n eu hadnabod.

Dyna pam dylech bob amser ddefnyddio cyfrinair cryf a gwahanol ar gyfer eich cyfrif e-bost.

Yn ddelfrydol, dylech wneud yr un fath ar gyfer cyfrifon eraill, fel eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a siopa ar-lein. Felly, os caiff un cyfrif ei hacio, ni fydd troseddwr yn gallu cael mynediad at eich cyfrifon eraill gan ddefnyddio’r un cyfrinair.

Dyma dri awgrym gwych ar gyfer gwella diogelwch eich cyfrineiriau.

Ar y dudalen hon:

  1. Creu cyfrineiriau cryf, cofiadwy gan ddefnyddio ‘tri gair ar hap’
  2. Defnyddio adnodd rheoli cyfrineiriau
  3. Newid cyfrineiriau a PINs diofyn ar ddyfeisiau clyfar (er enghraifft 0000)

1. Creu cyfrineiriau cryf gan ddefnyddio ‘tri gair ar hap’

Mae modd dyfalu cyfrineiriau gwan mewn mater o eiliadau. Po fwyaf hir ac anarferol yw eich cyfrinair, yr anoddaf yw hi i droseddwr ei ddyfalu.

Beth ddylech chi ei wneud

Ffordd dda o wneud yn siŵr bod eich cyfrineiriau yn ‘ddigon hir a chryf’ yw cyfuno tri gair ar hap i greu cyfrinair unigryw, hawdd ei gofio. Fel BlodynCarHet. Neu LleuadDawnsioMwnci.

Dewiswch unrhyw dri gair dan haul. Gallwch gynnwys priflythrennau, rhifau a nodau arbennig os yw’r wefan yn gofyn am hynny (BlodynCarH3t!) Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis set wahanol o eiriau ar gyfer pob cyfrif.

Beth i BEIDIO â’i wneud

I gadw eich cyfrifon yn ddiogel:

  • peidiwch â chreu cyfrinair sy’n defnyddio pethau sy’n gysylltiedig â chi (er enghraifft eich dyddiad geni, eich cyfeiriad, enw eich plentyn neu enw anifail anwes)
  • peidiwch â defnyddio cyfrineiriau cyffredin, hawdd eu dyfalu (er enghraifft pa55word, 123456)
  • peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer mwy nag un cyfrif

2. Defnyddio adnodd rheoli cyfrineiriau

Problem cael nifer o wahanol gyfrineiriau yw ei bod hi’n gallu bod yn anodd eu cofio. Dyma lle gall adnodd rheoli cyfrineiriau helpu.

Beth yw adnodd rheoli cyfrineiriau?

Mae adnodd rheoli cyfrineiriau yn adnodd sy’n cynhyrchu, yn storio ac yn diogelu eich holl gyfrineiriau. Mae unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio mewn adnodd rheoli cyfrineiriau yn cael ei hamgryptio, sy’n ei diogelu rhag troseddwyr. Dim ond gyda’ch cyfrinair ‘meistr’ mae modd ei ddatgloi – felly dim ond un cyfrinair sydd i’w gofio.

Mae dau brif fath o adnodd rheoli cyfrinair: mewn ap ac ar borwr

Mewn ap, mae eich cyfrineiriau’n cael eu storio’n ddiogel ar ap rheoli cyfrineiriau pwrpasol ar eich ffôn, dyfais tabled neu gyfrifiadur. Efallai y bydd rhaid i chi dalu tanysgrifiad ar gyfer y math hwn o adnodd rheoli cyfrineiriau.

Ar borwr, mae eich cyfrineiriau’n cael eu cadw’n ddiogel ar adnodd rheoli cyfrineiriau parod ar eich porwr gwe (er enghraifft Chrome, Safari, Edge).

Efallai y bydd eich porwr yn cynnig creu a chofio cyfrinair i chi. Cyhyd â’ch bod yn defnyddio dyfais nad ydych chi’n ei rhannu ag unrhyw un arall, mae hyn yn ddiogel.

Diogelu eich cyfrif rheoli cyfrineiriau

Mae adnodd rheoli cyfrineiriau yn ffordd wych o storio eich cyfrineiriau yn ddiogel, oherwydd dim ond un cyfrinair ‘meistr’ sydd i’w gofio. Ond os bydd troseddwr yn cael gafael ar y cyfrinair hwnnw, bydd yn gallu cael mynediad at bob un o’ch cyfrifon.

Felly, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn:

  • dewis cyfrinair ‘meistr’ cryf i reoli mynediad at eich cyfrif rheoli cyfrineiriau (er enghraifft drwy ddefnyddio tri gair ar hap). Cofiwch na allwch storio’r cyfrinair hwn yn yr adnodd rheoli cyfrineiriau ei hun, felly os na allwch ei gofio, gallwch ei nodi ar bapur, cyhyd â’ch bod yn cadw’r darn o bapur yn ddiogel ac o’r golwg
  • galluogi dilysu dau gam ar gyfer yr adnodd rheoli cyfrineiriau. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n ceisio cael mynediad at yr adnodd yn gorfod darparu rhagor o wybodaeth i brofi pwy ydyn nhw – cod untro unigryw neu ôl bys. Felly hyd yn oed os bydd troseddwyr yn gwybod y cyfrinair ‘meistr’, ni fydd yn gallu cael mynediad at y cyfrif rheoli cyfrineiriau
  • gosod diweddariadau ar gyfer eich ap rheoli cyfrineiriau cyn gynted ag y maen nhw ar gael

Cadw cyfrineiriau yn eich porwr gwe

Bydd y rhan fwyaf o borwyr gwe yn cynnig cadw eich cyfrineiriau i chi pan fyddwch yn cofrestru neu’n mewngofnodi i gyfrifon. Wrth ddychwelyd i’r wefan neu’r ap, bydd y porwr yn awto-lenwi’r cyfrinair. Cyhyd â’ch bod yn defnyddio dyfais nad ydych chi’n ei rhannu ag unrhyw un arall, mae hyn yn ddiogel.

3. Newid cyfrineiriau a PINs diofyn ar ddyfeisiau clyfar

Mae gan lawer o bobl ddyfeisiau clyfar gartref – setiau teledu, consolau gemau, oergelloedd, thermostatau ac eraill. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd. Yn aml, mae gan y dyfeisiau hyn gyfrineiriau neu godau PIN diofyn sy’n hawdd eu dyfalu, fel 0000. Er mwyn amddiffyn eich dyfeisiau clyfar rhag troseddwyr dylech:

  • newid y cyfrinair neu god PIN diofyn bob amser
  • os gallwch chi, dewis cyfrinair hir a chryf gan ddefnyddio dull diogel fel tri gair ar hap

Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun

Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.