Double your defences

Cadwch droseddwyr i ffwrdd gyda dilysiad 2-gam (2SV) - hyd yn oed os ydynt yn gwybod eich cyfrinair

Mae troi 2SV ymlaen yn rhoi lefel ychwanegol o ddiogelwch i’ch cyfrifon pwysicaf, yn enwedig eich e-bost. Gallwch ei droi ymlaen mewn ychydig funudau – amser sy’n werth ei roi er mwyn cadw’r twyllwyr draw.

Sut i droi dilysiad 2-gam ymlaen

Mae modd dod o hyd i wiriad 2-gam fel arfer yng ngosodiadau diogelwch eich cyfrif. Weithiau mae’n cael ei alw’n ddilysu 2-ffactor (2FA) neu ddilysu aml-ffactor (MFA).

Mae 2SV ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r prif wasanaethau ar-lein, fel e-bost, bancio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano? Chwiliwch adran gymorth gwefan swyddogol darparwr eich cyfrif, a ddylai ddarparu cyfarwyddiadau manwl.

Neu gallwch ddilyn y dolenni hyn i’r cyfarwyddiadau ar gyfer gwasanaethau penodol:

Galluogi dilysu dau gam ar gyfer e-bost
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfrifon eraill

Sut mae 2SV yn cadw seiberdroseddwyr draw?

Gall 2SV helpu i’ch amddiffyn rhag troseddwyr trwy ofyn am ragor o wybodaeth i brofi pwy ydych chi wrth ichi fewngofnodi i’ch cyfrifon ar-lein.

Mae’n darparu ffordd o ‘wirio dwywaith’ mai chi yw’r person rydych chi’n honni wrth ichi fewngofnodi.

Mae troi 2SV ymlaen yn creu dwywaith y gwaith i droseddwyr sy’n ceisio mynd at eich cyfrifon ar-lein, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod eich cyfrinair.

Ac mae’n haws nag rydych chi’n ei gredu i rywun ddwyn eich cyfrinair. Hyd yn oed os ydych chi bob amser wedi gofalu am eich cyfrineiriau, mae’n dal yn bosibl eu dwyn nhw heb unrhyw fai arnoch chi.

Sut mae 2SV yn gweithio?

Pan fyddwch chi’n troi 2SV ymlaen, gofynnir i chi gymryd ‘ail gam’, sef rhywbeth sydd ar gael i chi (a dim ond chi).

Gallai hyn fod yn god sy’n cael ei anfon atoch trwy neges destun, neu sy’n cael ei greu gan ap. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu defnyddio olion bysedd, adnabod wyneb, neu wybodaeth gofiadwy. Does dim angen ffôn symudol arnoch o reidrwydd i droi 2SV ymlaen. Bydd rhai darparwyr yn gadael ichi ddefnyddio rhif llinell dir, neu ddyfais ar wahân, fel darllenydd cardiau neu gof bach USB.

Rydyn ni’n argymell y dylech chi droi 2SV ymlaen ar gyfer eich e-bost a’ch cyfrifon yfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw gyfrifon sy’n cynnwys llawer o wybodaeth bersonol neu sensitif. Yn aml mae bancio ar-lein yn galluogi 2SV yn ddiofyn ond os nad ydych chi’n siŵr mynnwch wirio ddwywaith.

Cymerwch ychydig funudau i sicrhau eich cyfrifon ar-lein nawr.

Ffyrdd eraill i amddiffyn eich hun

Rhagor o wybodaeth am gamau i ddiogelu eich hun ac eraill rhag twyll.