Trowch 2SV ymlaen a dyblwch amddiffyniad eich cyfrifon pwysicaf, yn enwedig eich ebost. Mae modd ei droi ymlaen mewn munudau – amser sy’n talu ar ei ganfed i gadw’r twyllwyr draw.
Sut i droi 2SV ymlaen
Fel arfer, byddwch chi’n gallu dod o hyd i 2SV yng ngosodiadau diogelwch eich cyfrif. Weithiau mae’n cael ei adnabod fel dilysu dau ffactor (2FA) neu ddilysu aml-ffactor (MFA).
Mae prawf dilysu 2 gam ar gael ar gyfer y mwyafrif o’r prif wasanaethau ar-lein, fel ebost, bancio a’r cyfryngau cymdeithasol.
Methu gweld yr hyn rydych chi’n chwilio amdano? Edrychwch yn adran gymorth gwefan swyddogol darparwr y cyfrif, a ddylai roi cyfarwyddiadau manwl.
Neu gallwch chi ddilyn y dolenni hyn i’r cyfarwyddiadau ar gyfer gwasanaethau penodol:
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Galluogi dilysu dau gam ar gyfer cyfrifon eraill
Sut mae 2SV yn dyblu’ch amddiffynfeydd?
Mae 2SV yn dyblu’ch amddiffyniad yn erbyn seiberdroseddwyr trwy ofyn am fwy o wybodaeth i brofi pwy ydych chi wrth ichi fewngofnodi i’ch cyfrifon ar-lein.
Mae’n ffordd o ‘wirio ddwywaith’ mai chi yw’r person rydych chi’n honni pan fyddwch chi’n mewngofnodi.
Mae troi’r prawf 2SV ymlaen yn creu dwbl y gwaith i droseddwyr sy’n ceisio cyrchu’ch cyfrifon ar-lein, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod eich cyfrinair.
Ac mae’n haws nag rydych chi’n meddwl i rywun ddwyn eich cyfrinair. Hyd yn oed os ydych chi bob amser wedi gofalu am eich cyfrineiriau, maen nhw’n gallu cael eu dwyn heb fod bai arnoch chi.
Sut mae 2SV yn gweithio?
Pan fyddwch chi’n troi 2SV ymlaen, gofynnir ichi ddarparu ‘ail gam’, sef rhywbeth sydd ar gael i chi (a dim ond chi).
Gallai hyn fod yn côd sy’n cael ei anfon atoch trwy neges destun, neu sy’n cael ei greu gan ap.
Does dim angen ffôn symudol arnoch o reidrwydd i droi 2SV ymlaen. Bydd rhai darparwyr yn gadael ichi ddefnyddio rhif llinell dir, neu ddyfais ar wahân, fel darllenydd cardiau neu ffôn USB. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu defnyddio’ch olion bysedd, prawf adnabod wyneb, neu wybodaeth gofiadwy.
Rydyn ni’n argymell y prawf dwbl gyda 2SV ar gyfer eich ebost a’ch cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw gyfrifon sy’n cynnwys llawer o wybodaeth bersonol neu sensitif. Yn aml mae bancio ar-lein wedi galluogi 2SV yn ddiofyn ond gofalwch wirio ddwywaith os nad ydych chi’n siŵr.
Cymerwch ychydig funudau i ddyblu’ch amddiffynfeydd heddiw.
Ffyrdd eraill o ddiogelu eich hun
Dysgwch am gamau pellach i’ch diogelu chi ac eraill rhag twyll.